<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 1:47, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n falch o gael y cyfle i ddilyn ymlaen o’r ddadl honno, Simon Thomas, ac i ddweud ein bod wedi bod yn gwbl glir na fyddwn yn goddef i Whitehall fachu’r pwerau hynny, a’i bod yn annerbyniol i Lywodraeth y DU gymryd pwerau sy’n cael eu harfer gan yr UE ar hyn o bryd yn y meysydd datganoledig. Wrth gwrs, mae hyn yn hollbwysig i’r pwynt a wnaethoch ynglŷn ag amaethyddiaeth a’r amgylchedd.