<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 1:49, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Rydym ni fel Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n gadarn i wella ansawdd aer ledled Cymru. Rydym yn cynorthwyo, ac yn darparu canllawiau i helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu cyfrifoldebau, yn enwedig o ran adolygu ansawdd aer lleol, gydag asesiadau a monitro rheolaidd. Ond fe fyddwch yn gwybod, wrth gwrs, fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yng Nghymru ar sut y gellir gwella ansawdd aer a rheolaeth sŵn yn lleol, ac yn wir, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ysgrifenedig mewn ymateb i hynny ar 30 Mawrth. Mae’n rhaid bwrw ymlaen â’n camau nesaf a chyhoeddi canllawiau statudol newydd i awdurdodau lleol, canllawiau newydd i fyrddau iechyd lleol, a lansio, erbyn 24 Ebrill—ac mae hyn yn bwysig i’ch cwestiwn—ymgynghoriad ar y cyd â gweinyddiaethau eraill y DU ar gynllun ansawdd aer newydd i gydymffurfio â therfynau nitrogen deuocsid yr UE ar gyfer Cymru a gweddill y DU o fewn yr amser byrraf posibl.