Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 5 Ebrill 2017.
Diolch i’r Gweinidog am y datganiad ac edrychaf ymlaen at weld cynigion cadarn iawn gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod hynny’n digwydd. Yn benodol, rwy’n awyddus i ni beidio â dibynnu ar Lywodraeth y DU i gynrychioli ein buddiannau yma yng Nghymru, a chan ystyried llygredd aer yn benodol fel maes, rydym eisoes yn clywed am fesurau eithafol—byddai rhai’n eu galw’n ‘fesurau eithafol’ ac eraill yn eu galw’n ‘fesurau angenrheidiol’—ar gyfer mynd i’r afael â llygredd aer. Mae Sadiq Khan, Maer Llundain, yn cyflwyno cyfradd uwch o dâl atal tagfeydd ar gyfer cerbydau llygredd uchel; mae’r Prif Weinidog wedi awgrymu cynllun sgrapio i sicrhau nad yw perchnogion ceir diesel yn dioddef o ganlyniad i gamgymeriad y Llywodraeth Lafur flaenorol yn hyrwyddo ceir diesel, i ddatgan buddiant. Felly, pa fewnbwn sydd gan Lywodraeth Cymru yn awr i sicrhau bod buddiannau pobl Cymru yn cael eu cynrychioli mewn perthynas ag iechyd y cyhoedd a chyfiawnder cymdeithasol yng nghynigion Llywodraeth y DU ar gynllun llygredd ar gyfer y DU gyfan, gan gofio bod llygredd aer yn arwain at 6,000 o farwolaethau cyn pryd yng Nghymru bob blwyddyn?