<p>Tlodi Tanwydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 1:52, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae’n mynd â mi yn ôl i ddegawd pan oeddem yn ceisio argyhoeddi eich cyd-Aelodau blaenorol yn Llywodraeth Cymru fod strategaeth tlodi tanwydd yn cynnwys effeithlonrwydd ynni ond mae’n fater o gyfiawnder cymdeithasol. Mae Age Cymru wedi dweud bod llawer o’r mecanweithiau a’r mesurau a oedd wedi’u cyfuno yn strategaeth tlodi tanwydd 2010 Llywodraeth Cymru wedi dyddio ac nad ydynt yn berthnasol mwyach, gan ddweud ei bod yn bryd i Lywodraeth Cymru adnewyddu ei strategaeth tlodi tanwydd.

Clywsom yng nghynhadledd drawsffiniol gogledd Cymru ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd ym mis Chwefror ac yng nghynhadledd flynyddol Cymru ar dlodi tanwydd, er y dylid canmol buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cynlluniau effeithlonrwydd ynni drwy ei rhaglen Cartrefi Clyd, fod angen newid sylweddol arnom o ran uchelgais a graddau’r adnoddau a glustnodwyd. Sut felly y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Chynghrair Tlodi Tanwydd Cymru, gan eich bod eisoes yn cydweithio â’r rhan fwyaf o’i haelodau mewn gwahanol gyd-destunau, ynglŷn â’u datganiad fod gwir angen strategaeth tlodi tanwydd newydd arnom yng Nghymru?