Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 5 Ebrill 2017.
Ers 2011, rydym wedi buddsoddi dros £217 miliwn yn rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru er mwyn gwella dros 39,000 o gartrefi. Y pwynt pwysig yn hyn o beth, Mark Isherwood, yw bod gwella effeithlonrwydd ynni aelwydydd incwm isel, neu bobl sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, yn creu nifer o fanteision. Mae’n helpu i atal a mynd i’r afael ag afiechyd, mae’n lleihau allyriadau carbon, mae’n creu swyddi ac ynni ac yn gwella cyrhaeddiad addysgol. Awgrymodd adroddiad diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru y gallai buddsoddi mewn inswleiddio a gwresogi, er mwyn mynd i’r afael â thai oer a llaith, gael effaith enfawr hefyd. Gwyddom mai’r ffordd fwyaf effeithiol o fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn y tymor hir yw gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi, ac rydym yn gwneud hynny’n effeithiol drwy raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru.