Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 5 Ebrill 2017.
Wel, rwy’n falch fy mod wedi cael cyfle i ateb Simon Thomas yn gynharach ein bod yn hollol glir: ni fyddwn yn gadael i Whitehall fachu’r pwerau hynny. Teimlaf hefyd ein bod, rhyngom, yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, wedi cyflwyno ymagwedd glir ac ymarferol iawn tuag at ddatblygu unrhyw fframweithiau ar gyfer y DU gyfan, er enghraifft, a allai fod yn angenrheidiol mewn perthynas â’r meysydd datganoledig. Rydym wedi dweud, a chredaf fod y Prif Weinidog wedi dweud ddoe, mai ein dewis delfrydol fyddai Bil diddymu ar gyfer y DU sy’n cydnabod yn briodol ac yn diogelu’r setliad datganoli. Byddwn yn dadlau hyn yn gryf mewn trafodaethau dwyochrog â Llywodraeth y DU ac yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, ond rydym hefyd wedi bod yn ystyried y mater: fe wnaethom ymatal ar eich gwelliant ddoe ac rydym yn parhau i’w ystyried mewn perthynas â’r cynnig ar y Bil parhad.