Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 5 Ebrill 2017.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â Severn Trent Water ddwywaith, a chofiaf ei bod wedi adrodd ar hyn er mwyn pwysleisio’r angen am gyfnod pontio rhwydd sydd o fudd i Gymru, gan ein bod yn ymwybodol o ansicrwydd y rhai yr effeithir arnynt o ganlyniad i gaffael Dŵr Dyffryn Dyfrdwy. Mae wedi cyfarfod â hwy i drafod sut y dylid cysoni polisi Llywodraeth Cymru â’r diwydiant dŵr, ond hefyd er mwyn ystyried y goblygiadau o ran sut i ddiogelu’r gweithlu lleol, swyddi lleol, y gymuned a’r cwsmeriaid.