Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 5 Ebrill 2017.
Arweinydd y tŷ, mae etholwr wedi tynnu fy sylw at ddifrod i eiddo yn ardal Llandinam yn fy etholaeth y credant iddo gael ei achosi gan weithgarwch echdynnu Severn Trent yn yr ardal. A gaf fi ofyn i chi pa rôl sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn sicrhau bod Severn Trent yn derbyn cyfrifoldeb am eu gweithredoedd ac yn sicrhau nad yw’r gweithgareddau y maent yn eu cyflawni yn effeithio ar yr amgylchedd?
A gaf fi ofyn hefyd, o ystyried yr adroddiadau a gefais gan nifer o wahanol berchnogion eiddo ynglŷn â suddiant sylweddol mewn caeau, craciau mewn eiddo ac ymsuddiant eiddo, pe bawn yn rhoi’r wybodaeth berthnasol i chi neu Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech yn ymrwymo i drafod y mater gyda Cyfoeth Naturiol Cymru?