Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 5 Ebrill 2017.
Credaf fod yr enghraifft honno—. Mae angen pob enghraifft ar Ysgrifennydd y Cabinet, ei swyddogion a Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys yr un a grybwyllwyd gennych y prynhawn yma. Mae’n bwysig nodi bod Severn Trent wedi bod yn aelodau gweithgar o fforwm dŵr Cymru ers iddo gael ei sefydlu, ac maent yn ymgysylltu’n rheolaidd, drwy’r fforwm, gyda Llywodraeth Cymru, ac yn wir, gyda’r rheoleiddwyr.