Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 5 Ebrill 2017.
Arweinydd y tŷ, yn amlwg, fel y dywedoch, mae allforio anifeiliaid byw o dan amodau penodol iawn ac amddiffyniadau iechyd anifeiliaid llym yn arfer cyfreithlon, ond un peth a fyddai’n gymorth wrth ychwanegu gwerth at dda byw yma yng Nghymru fyddai sicrhau bod gennym sector prosesu cadarn iawn. Mae gallu’r sector gwartheg, er enghraifft, yn gyfyngedig iawn ac mae wedi ei grynhoi mewn ychydig iawn o ddwylo. Yn benodol, rydym eisoes wedi gweld diswyddiadau ar y safle mawr ym Merthyr Tudful. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o gryfder y sector prosesu yma yng Nghymru, a sut y gallai gefnogi’r gymuned amaethyddol, o bosibl, drwy ychwanegu gwerth at dda byw yma yng Nghymru, yn hytrach na gorfod allforio’r cynnyrch sylfaenol er mwyn i eraill ychwanegu gwerth ato?