<p>Allforio Anifeiliaid Byw</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:05, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Mae hwnnw’n gwestiwn defnyddiol, oherwydd credaf ei fod yn ategu fy mhwynt ynglŷn â’r hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud o ran sefydlu’r strwythur partneriaeth newydd hwnnw gyda’r rhai sy’n gyfrifol am gamau gorfodi effeithiol, sef penaethiaid y safonau masnach. Ac i gydnabod hefyd fod yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn cynnal archwiliadau ar sail risg o dda byw y bwriedir eu hallforio yn eu man cychwyn, a bod awdurdodau lleol yn cynnal archwiliadau o dan Orchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007, a’u bod yn gyfrifol, fel y dywedais, am orfodi ac erlyn lle y nodir tramgwydd—ond yn amlwg, mae cryfhau’r broses yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn.