Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 5 Ebrill 2017.
Rwy’n siŵr y bydd arweinydd y tŷ’n ymwybodol fod hwn yn fater pwysig sy’n ymwneud â diogelu’r cyflenwad bwyd, a bod angen i unrhyw Lywodraeth allu sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at fwyd ffres a naturiol. Mae llawer o faterion yn codi yn hyn o beth, nid yn unig y milltiroedd bwyd a allai fod yn angenrheidiol er mwyn cyflenwi bwyd pe bai ein diwydiant amaethyddol yn methu—lles dinasyddion, a fyddai’n cael effaith enfawr ar gyllidebau’r GIG. Felly, tybed beth yn benodol sy’n cael ei wneud i sicrhau cydnerthedd cymunedau gwledig o ystyried y ffaith fod y rhan fwyaf o ffermwyr yn dibynnu ar y taliadau sylfaenol presennol am hyd at 80 y cant o’u hincwm.