<p>Cymorthdaliadau Ffermio’r UE</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:07, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn, oherwydd mae’n bwysig, mae diogelu’r cyflenwad bwyd yn bwysig i ni yng Nghymru, a chredaf fy mod wedi crybwyll bod trafodaethau o gwmpas y bwrdd yn ymgysylltiad allweddol—rhanddeiliaid allweddol yn gweithio gyda’i gilydd i gyflwyno cynnig i’r cynllun datblygu gwledig fel rhan o’r cynllun datblygu cadwyni cyflenwi a chydweithio, a fydd yn adeiladu, er enghraifft, ar waith pwysig iawn Garddwriaeth Cymru. Credaf fod cydnabod y gall cyfleoedd i arallgyfeirio ganiatáu i aelodau ychwanegol o’r teulu ymgymryd â’r busnes ffermio, gan roi mwy o ddiogelwch i ddyfodol busnesau teuluol, a ddaw, wrth gwrs, yn sgil yr ymagwedd honno—. Ond credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi hwb i gymunedau gwledig gyda’r hwb o £223 miliwn o ran cyfleoedd ar gyfer y rhaglen datblygu gwledig, a fydd yn gymorth i fynd i’r afael â’r materion hynny.