<p>Beiciau Modur oddi ar y Ffyrdd</p>

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith amgylcheddol defnyddio beiciau modur yn anghyfreithlon oddi ar y ffyrdd yng Nghymru? OAQ(5)0129(ERA)

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:13, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Gall defnyddio cerbydau’n anghyfreithlon ac yn anghyfrifol oddi ar y ffyrdd gael effaith niweidiol ar yr amgylchedd naturiol, yn ogystal ag ar fwynhad a diogelwch defnyddwyr eraill, rheolwyr tir, a chymunedau lleol yng Nghymru.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP

(Cyfieithwyd)

Iawn. Diolch am eich ateb ac am gydnabod y broblem. A oes unrhyw beth—? Gan fod y broblem i’w gweld yn gwaethygu mewn rhai ardaloedd, a oes unrhyw gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i helpu i fynd i’r afael â hyn?

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Arweiniodd ymgyrch ar y cyd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Heddlu De Cymru ym mis Tachwedd at ddal 22 o feicwyr modur yn rhan o’r ymgyrch mewn mannau ledled Cymru lle y gwyddys bod hyn yn digwydd yn aml. Mae’r heddlu’n cydweithio’n agos â Cyfoeth Naturiol Cymru i dargedu pobl sy’n defnyddio beiciau sgramblo yn anghyfreithlon ar dir sy’n agored i’r cyhoedd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:14, 5 Ebrill 2017

Ac, yn olaf, cwestiwn 9, Rhun ap Iorwerth.