Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 5 Ebrill 2017.
Rwyf am ddatgan bod aelodau agos o’r teulu wedi gwneud addasiadau i’w cartrefi gan ddefnyddio arian yr awdurdod lleol, ac mae hynny wedi eu galluogi i fyw’n annibynnol ac wedi lleihau costau am wasanaethau statudol, mewn gwirionedd. Yng nghyd-destun y toriadau y mae rhai awdurdodau lleol wedi eu gwneud i’r gyllideb ar gyfer offer i bobl fyddar, gyda rhai yn nodi eu bod yn rhoi’r gorau i ariannu offer er ei fod yn arbed arian i’r gwasanaethau statudol mewn gwirionedd, pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyhoeddi, neu’n mynd i’w cyhoeddi i awdurdodau lleol ynglŷn â pha addasiadau neu offer y dylid eu darparu fel gofyniad sylfaenol?