<p>Credyd Cynhwysol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:21, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am gwestiwn difrifol iawn. Fel y cyfryw, ni fydd unigolion sengl rhwng 18 a 21 oed sydd heb blant yn gymwys i gael cymorth gyda’u costau tai pan ddaw credyd cynhwysol i rym, o 1 Ebrill ymlaen—yr wythnos hon. Ceir sawl eithriad, gan gynnwys pobl sy’n anabl neu bobl nad ydynt yn gallu byw gartref gyda’u rhieni. Effeithir ar oddeutu 1,000 o bobl yng Nghymru, ond nid yw hyn yn cynnwys y nifer helaeth o eithriadau a allai fod yn ymgeisio. Dyma weithredu diwygiadau credyd mewn modd llym iawn. Nid ydym yn cefnogi hyn; mae’n ymyriad gan Lywodraeth y DU. Rydym yn bryderus iawn y bydd nifer y bobl ifanc sy’n cael eu dadleoli yn ein cymunedau yn cynyddu drwy hyn, ac rwyf wedi gofyn i fy nhîm edrych ar hyn ar fyrder.