Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 5 Ebrill 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, canfu un o astudiaethau’r Adran Gwaith a Phensiynau fod y bobl sydd ar gredyd cynhwysol 8 y cant yn fwy tebygol o ddod o hyd i swydd o fewn 270 diwrnod na’r bobl a oedd wedi hawlio lwfans ceisio gwaith. Felly, mae rhai agweddau ar y cynllun newydd hwn sy’n bendant yn gweithio. Gobeithio y byddwch cystal â chydnabod hynny.