Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 5 Ebrill 2017.
Fel y dywedais yn gynharach, pan gyflwynwyd y ddeddfwriaeth hon gennym, credaf ein bod ar bwynt mewn amser pan oeddem yn credu mai dyna oedd y peth iawn i’w wneud. Rydym wedi gweld yr ymyriadau hynny’n bod yn gadarnhaol iawn. Credaf ei bod yn bryd adnewyddu’r polisi yn awr a chynnal adolygiad o’r hyn rydym yn ei wneud o ran ymyrraeth. Mae’r dystiolaeth ar ein strydoedd. Rydym yn gallu gweld pobl sy’n ddigartref a phobl yn cysgu ar y stryd, ac felly, mae’n amlwg fod rhywbeth o’i le rhwng y ddeddfwriaeth a’i gweithrediad. Rwy’n fwy na pharod i edrych ar hynny, ac i gyfarfod â Shelter yn ogystal, cyfarfûm â Crisis ddoe hefyd. Felly, rwyf wedi cyfarfod â llu o sefydliadau sy’n ymdrin â digartrefedd, gan fy mod o’r farn y dylai hon fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth.