Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 5 Ebrill 2017.
Ie, rwy’n cydnabod bod problemau yn hynny o beth. Os arhoswn gyda’r cyflenwad tai, fel rydych wedi bod yn ei ddweud, maes arall yw dod â thai gwag i mewn i’r cyflenwad tai. Gwn eich bod wedi cael rhywfaint o lwyddiant gyda’r cynllun Troi Tai’n Gartrefi. Mae’r ffigurau diweddaraf a welais yn dangos bod oddeutu 23,000 o dai gwag yng Nghymru ar hyn o bryd. Eich ffigur chi yw hwnnw, gyda llaw. Felly, a yw’n debygol y bydd cynllun Troi Tai’n Gartrefi y Llywodraeth yn rhyddhau llawer o’r adeiladau gwag hyn ac yn helpu i’w troi’n eiddo preswyl?