Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 5 Ebrill 2017.
Mae dwy ran, unwaith eto, lle y byddant yn parhau â’r rhaglen honno—llwyddiannus iawn—ond mae rhagor i’w wneud o hyd. Unwaith eto, yn hytrach nag adeiladu eiddo newydd drwy’r amser, credaf mai’r hyn y gallem ei wneud yw ymyrryd a defnyddio eiddo hŷn, os oes modd inni sicrhau eu bod yn effeithlon o ran ynni ac yn addas i gael eu defnyddio fel llety. Rwyf wedi gofyn i fy nhîm edrych ar hyn mewn perthynas ag ymyrraeth uniongyrchol yn ymwneud â chartrefi gwag yn ein cymunedau.