<p>Adfywio yng Ngorllewin De Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:41, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, fel prosiectau ym Mhort Talbot, wedi adfywio rhannau o fy nhref, ac rydych wedi gweld rhywfaint o’r gwaith yn ardal y Parc Gwyrdd drosoch eich hun. Mae’r rhain wedi bod yn weledigaeth atyniadol i’r bobl leol ac i fuddsoddwyr yn y dyfodol. Byddai’r cyhoeddiad a wnaed gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder bythefnos yn ôl ynglŷn â lleoli carchar newydd ym Maglan, sy’n llai na milltir i ffwrdd o’r prosiectau adfywio hyn sydd wedi’u targedu, yn gallu—ac rwy’n dweud ‘gallu’—gwrthdroi effaith gadarnhaol y prosiectau hyn. Deallaf fod y tir sydd dan ystyriaeth gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn eiddo i Lywodraeth Cymru. Pan fydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gofyn a fyddai’n gwerthu’r tir, a fydd Llywodraeth Cymru yn dweud, ‘Na’ ac yn cadw ei ffocws ar adfywio wedi’i dargedu ym Mhort Talbot?