<p>Adfywio yng Ngorllewin De Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:42, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am gydnabod y buddsoddiad rydym wedi’i wneud yn ei etholaeth, ac rwyf wedi bod o gwmpas gydag ef ar rai o’r ymweliadau hynny. Unwaith eto, mae honno’n ardal arall sydd wedi cael ei thrawsnewid yn ddramatig gan fuddsoddiad y Llywodraeth.

Mater i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yw’r carchar. Mae’r system gynllunio mor briodol ag ydyw ar gyfer unrhyw system arall, boed yn garchar neu’n siop stryd fawr. Mae’r tir yn agored i gynigion gan unrhyw sefydliad, ac os yw’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dymuno dilyn y trywydd hwnnw, mater iddynt hwy fydd hynny a byddwn yn ei drin yn unol â hynny o dan y telerau ac amodau cynllunio.