Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 5 Ebrill 2017.
Mae gennym Lywodraeth gydgysylltiedig iawn ac mae gennym gymuned gydgysylltiedig iawn o ran ein hymyriadau ag awdurdodau lleol hefyd. Rwy’n credu bod bargen ddinesig bae Abertawe yn wych ar gyfer yr ardal ac unwaith eto, bydd yn ymwneud ag atebion trafnidiaeth integredig a chyfleoedd cyflogaeth. Mae’r cysyniad metro yn egwyddor o sut y gellir cydgysylltu cymunedau, hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y metro. Ac yna ceir yr amod masnachfraint newydd: sut rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn cynllunio ar gyfer bysiau neu dramiau, neu sut olwg bynnag fydd ar hynny yn y dyfodol? Rwy’n siŵr y bydd gan fargen ddinesig Bae Abertawe y weledigaeth honno wrth i ni symud ymlaen. Mae ganddi dîm gwych o gwmpas y ddarpariaeth honno, gyda’r holl awdurdodau yn ymrwymo i hynny. Rwy’n gobeithio y bydd yn mynd o nerth i nerth ar ôl mis Mai.