Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 5 Ebrill 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n gyfarwydd â ‘buddleia towers’ hefyd ac ni allaf ddweud bod ymyrraeth cyngor Abertawe yn y fan honno wedi creu argraff hynod o fawr arnaf. Ond mae’r fargen ddinesig yn newyddion gwell i Abertawe. Yn anffodus efallai, nid yw’n mynd i’r afael â’r seilwaith traddodiadol neu fetro, gan ganolbwyntio yn hytrach ar briffyrdd digidol yn sbardun i arloesi ac adfywio. O ganlyniad, tybed a allai Llywodraeth Cymru, ar lefel strategol, fynd ati i archwilio sut i wella ansawdd aer Abertawe, gan ei archwilio o fewn cynllun trafnidiaeth rhanbarthol sy’n gydnaws ag amcanion y fargen ddinesig. A fyddai Llywodraeth Cymru yn edrych ar hyn fel nad yw syniadau fel trenau un gledren a thramiau a thacsis trydan a bysiau LPG yn diflannu o’ch golwg yn syml am nad oes neb yn gallu cytuno ai’r portffolio trafnidiaeth, y portffolio adfywio neu’r portffolio cymunedau sydd â’r cyfrifoldeb am hyn?