<p>Y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:45, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb ac a gaf fi ddiolch yn arbennig iddo am ei swyddogion a fynychodd gyfarfod â mi ar y safle Sipsiwn yn Kingsmoor ger Cilgeti ddydd Gwener. Hoffwn ddiolch hefyd i Ruby Price a’n croesawodd ni i’w chartref am awr neu ddwy lle y buom yn trafod Tros Gynnal Plant, prosiect Teithio Ymlaen ac anghenion eraill i gefnogi safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Benfro. A gaf fi ofyn dau gwestiwn penodol sy’n deillio o hynny? Un o’r pethau a oedd yn glir o’r drafodaeth honno oedd bod cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn meithrin ymddiriedaeth yn y rhai sy’n gallu siarad ar eu rhan, neu ymyrryd neu weithio gyda hwy, ac mae’r prosiect Undod wedi gwneud llawer i gyflawni hynny yn Sir Benfro. Sut y gallwn gyflawni a sicrhau bod yr hyn a ddysgwyd yn y prosiect Undod, a’r sgiliau sydd wedi cael eu datblygu gydag unigolion yno, yn cael eu trosglwyddo mewn rhyw ffordd i brosiect newydd Teithio Ymlaen, Tros Gynnal Plant hefyd, fel nad oes hyder yn cael ei golli? Oherwydd, fel y bydd yn gwybod, ym maes datblygu cymunedol, gall gymryd dwy neu dair blynedd i ailfeithrin hyder os ydych yn ei golli ar y cam hwnnw.

Mae’r ail gwestiwn yn ymwneud â’r cyfleusterau yn Kingsmoor yn benodol. Deallaf fod Cyngor Sir Penfro yn ystyried cael cais cynllunio a dod at Lywodraeth Cymru am gyllid cyfalaf i ehangu’r safle hwnnw. Rwy’n gobeithio y bydd ef yn gweithio gyda Sir Benfro, neu ei swyddogion o leiaf, er mwyn sicrhau bod y bobl ar y safle hwnnw’n cael tegwch a’r cyfle gorau posibl i wneud cais drwy Sir Benfro am yr arian a allai fod ar gael gan Lywodraeth Cymru.