Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 5 Ebrill 2017.
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rwy’n ymwybodol o’r prosiect Undod ac rwy’n ddiolchgar iddo am gydnabod fy swyddog. Dywedais y byddai’n dod gyda chi ac fe wnaeth, ac rwy’n falch ei fod wedi bod yn gyfarfod llwyddiannus. Rwyf innau hefyd yn awyddus i rannu arferion da a’r cydlyniant cymunedol sy’n cael ei ddatblygu drwy raglen fel hon. Mae’n drueni dweud, er bod y Loteri Fawr yn dod i ben yn y tymor hir, roedd yr awdurdod lleol yn ymwybodol fod y rhaglen honno’n dod i ben a byddent wedi gallu cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru i barhau â gwaith da y prosiect Undod, ond methodd wneud hynny, sy’n anffodus. O ran y gwariant cyfalaf y mae’r Aelod yn cyfeirio ato, nid wyf yn ymwybodol fod cais ar y ffordd, ond wrth gwrs rwyf wedi clywed sylwadau’r Aelod.