Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 5 Ebrill 2017.
A gaf fi ychwanegu fy llais at sylwadau Simon Thomas am y prosiect Undod? Roedd yn brosiect ardderchog yn wir ac fe weithiodd i helpu i ddod â Sipsiwn a Theithwyr ifanc yma i’r Senedd ar gyfer y grŵp trawsbleidiol ar Sipsiwn a Theithwyr. Maent yn ansicr sut y byddant yn gallu dod yn y dyfodol. Felly, a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a yw’n gallu meddwl am rywbeth a fyddai’n gallu cymryd lle’r prosiect Undod i roi cymorth i alluogi’r bobl ifanc i ddod yma i weld ble mae eu democratiaeth?