Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 5 Ebrill 2017.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn y cyfnod rhwng 1945 a 1979—cyfnod democrataidd-gymdeithasol hanes Prydain—cafodd nifer fawr o dai cyngor eu hadeiladu. Pan oedd yn cael ei llywodraethu gan y gwleidyddion adain chwith adnabyddus hynny, Winston Churchill, Harold MacMillan a Stanley Baldwin, adeiladodd Prydain filiynau o dai cyngor a fflatiau. Yn y cyfnod ers hynny nid oes fawr o dai wedi cael eu hadeiladu ac mae’r nifer wirioneddol wedi gostwng oherwydd yr hawl i brynu. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch cyngor Abertawe ar fynd ati i adeiladu tai cyngor yn Ffordd Milford a Gellifedw yn Abertawe?