<p>Cartrefi Newydd i’w Rhentu</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:49, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Ddwywaith mewn diwrnod, Mike Hedges. Llongyfarchiadau i Abertawe. Mae’n wych gweld yr awdurdod lleol yn adeiladu tai cyngor newydd. Yn wir, yn fy awdurdod fy hun yn Sir y Fflint hefyd, gyda Hannah Blythyn, mae gennym dai cyngor llwyddiannus a phobl yn byw ynddynt eisoes. Rydym bellach yn dechrau gweld y budd o ddod allan o system gymhorthdal ​​y cyfrif refeniw tai gyda chartrefi cyngor newydd yn cael eu hadeiladu. Rwy’n falch fod Abertawe ac awdurdodau eraill yn defnyddio eu gweledigaeth i sicrhau ein bod yn gallu gwneud buddsoddiad hirdymor yn y stoc tai cymdeithasol sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.