<p>Cartrefi Newydd i’w Rhentu</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:50, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Ddwywaith i Suzy Davies hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cynllun datblygu lleol Cyngor Abertawe eisoes wedi cael ei ohirio, ac mae dyddiad newydd mis Mawrth wedi mynd heibio ac nid ydym fymryn yn agosach at fod yn hollol siŵr sut y mae’r weledigaeth hon a grybwyllwyd gennych yn edrych, a’r arloesedd y gall y cyngor ei gynnig i’w gynllun i ddod ag eiddo rhent newydd i’r stoc dai. Nawr, rwyf wedi crybwyll y pwynt sawl gwaith—wrthych chi, fel y mae’n digwydd—felly rwy’n teimlo bod gennyf hawl i ofyn yn awr: pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud yn siarad â’r sector tai amlfeddiannaeth ynglŷn â throi capasiti dros ben yn gartrefi newydd hirdymor? Ac a gaf fi ofyn, felly, pa gyngor y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi i gynghorau ynglŷn â chaffael eiddo sydd wedi’i leoli’n ganolog eu hunain er mwyn dod ag ef i mewn i stoc tai cymdeithasol y cynghorau yn ychwanegol at adeiladau newydd?