Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 5 Ebrill 2017.
Wel, rwy’n credu bod hyn, o gwestiwn cynharach, yn ymwneud â pha atebion tai sy’n addas ar gyfer y dyfodol a beth yw eu hanghenion. Nid oes gennyf broblem gyda defnyddio tai amlfeddiannaeth os ydynt yn addas ar gyfer atebion tai newydd. Ymwelais ag Abertawe, gyda Julie James a Mike Hedges mewn gwirionedd, i edrych ar y ddarpariaeth tai amlfeddiannaeth. Suzy, byddai croeso wedi bod i chi, ond nid oeddwn yn gwybod a oedd lle gennych yn eich dyddiadur. Y ffaith amdani yw, yr hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yw bod yn arloesol ac edrych ar yr holl opsiynau i Gymru. Rwy’n credu bod y sector tai amlfeddiannaeth—. Oherwydd bod mwy o adeiladau llety myfyrwyr wedi cael eu datblygu ar ffurf bloc, mae tai amlfeddiannaeth bellach yn symud allan o’r system honno; felly, mae cyfle i ni eu defnyddio.