<p>Gofal Plant am Ddim</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:52, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n ymwybodol iawn o’r cynlluniau peilot, a hoffwn ddiolch i’r Llywodraeth am wneud y datganiad am y rheini’n ddiweddar iawn, ond rwy’n bryderus—yn bryderus iawn yn wir—ynghylch sylwadau’r Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd yr wythnos hon ynglŷn â gallu’r sector preifat sydd eisiau gweithio gyda’r Llywodraeth, fel y gwyddoch, i gyflawni’r ymrwymiad hollbwysig hwn. Rwy’n pryderu am allu’r sector i fodloni’r gofynion hynny, a’r ffaith nad oes unrhyw gynllun ar hyn o bryd rhwng y sector preifat a’r Llywodraeth i gynyddu’r gallu hwnnw dros y blynyddoedd nesaf fel y gallwch gyflawni’r ymrwymiad heriol hwn. Pa waith rydych chi’n ei wneud y tu ôl i’r llenni er mwyn gwneud yn siŵr fod y gallu gennych i gyflawni’r addewid pwysig hwn?