Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 5 Ebrill 2017.
Wel, fe ddarllenais innau hefyd eich datganiad i’r wasg, a darllenais y sylwadau yn y papur newydd. Mae’r sylw’n dweud,
Efallai na fydd y cynllun i gynnig 30 awr o ofal plant am ddim yn bosibl ac nid yw hynny’n golygu nad yw’n bosibl. Y ffaith yw bod y Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd yn rhan o’r gweithgor sy’n bwrw ymlaen â’r cynllun hwn. Cefais fy synnu hefyd eu bod yn gwneud sylwadau yn y cyfryngau yn hytrach na dod i siarad gyda ni.
A gaf fi ddweud bod y gweithgor yn gweithio’n dda? Nid y sector preifat yw’r unig opsiwn ar gyfer cyflwyno’r model hwn, ac felly mae gennym lawer o opsiynau wrth symud ymlaen. Bydd y cynlluniau peilot yn rhoi gwell syniad o’r ddarpariaeth i ni, ond rwy’n hyderus y byddwn yn gallu cyflawni’r rhaglen gofal plant fwyaf cynhwysfawr yn y DU gan y Llywodraeth hon erbyn diwedd y tymor llywodraeth hwn.