Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 5 Ebrill 2017.
Bydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymestyn yr hawl i ofal plant am ddim o reidrwydd yn arwain at gynnydd yn nifer y darparwyr gofal plant ledled Cymru. Mae hyn yn creu cyfle i ni ystyried yr effeithiau cymunedol cadarnhaol a allai ddeillio o’r cynnydd mewn cyflogaeth yn y sector hwn. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i roi i ymgorffori egwyddorion yr economi sylfaenol yn y cynnig i ddarparu gofal plant a chynyddu’r galw ar ddarparwyr i gynnig atebion cymdeithasol er budd pellach i gymunedau?