Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 5 Ebrill 2017.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. A yw’n ymwybodol o’r arolwg a gomisiynwyd gan Gomisiynydd Plant a Phobl Ifanc Gogledd Iwerddon a oedd yn dangos bod 63 y cant o bobl yng Ngogledd Iwerddon bellach yn cefnogi gwarchod plant yn gyfreithiol rhag taro, smacio, ac unrhyw fath o ymosodiad yn wir? A yw hefyd yn ymwybodol fod yr Aelod o Senedd yr Alban, John Finnie, i fod i gyflwyno Bil Aelod yn Senedd yr Alban yn ystod yr wythnosau nesaf i ddiddymu’r amddiffyniad o ymosodiad cyfiawnadwy mewn perthynas â chosbi plant yn gorfforol yn yr Alban? A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod yn ddefnyddiol iawn i ni yng Nghymru, ac i Lywodraeth Cymru, edrych ar yr hyn sy’n digwydd mewn gwledydd eraill mewn perthynas â chosbi plant yn gorfforol a’n cynlluniau arfaethedig ein hunain?