<p>Hawliadau a Hawliau plant</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:57, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Yn wir, ac mae’r Aelod yn iawn i dynnu sylw at hyn. Mae hyrwyddo rhianta cadarnhaol yng Nghymru yn hollbwysig, ac mae dysgu gan wledydd eraill yn rhan o’n dull gweithredu, ond mae’n rhaid i ni gydnabod bod atebion a gyflwynwyd gan wledydd eraill yn seiliedig ar eu hawdurdodaethau cyfreithiol penodol eu hunain. Bydd unrhyw ddeddfwriaeth y byddwn yn bwrw ymlaen â hi’n cael ei theilwra ar gyfer Cymru, ond gall yr Aelod fod yn sicr y byddwn yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon.