Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 5 Ebrill 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o fod wedi cyflwyno’r ddadl hon heddiw gyda fy nghyd-Aelodau Hefin David, Vikki Howells, Jeremy Miles, a fy nghyfaill David Melding—yn wirioneddol falch. Yn union fel y buom yn pwysleisio fis diwethaf fod yn rhaid i ni wneud popeth a allwn i hybu’r hyn a elwir yn economi sylfaenol, mae’n rhaid i ni hefyd edrych ar y tueddiadau allanol sy’n debygol o newid ein bywydau a’n heconomïau.
Rydym yng nghamau cynnar pedwerydd chwyldro diwydiannol, a nodweddir gan ein gallu i gyfuno technolegau digidol â systemau ffisegol a biolegol. Yn union fel y daeth y chwyldro diwydiannol cyntaf yn sgil ein gallu i harneisio pŵer stêm, yr ail yn sgil ein gallu i gynhyrchu pŵer trydanol, gan ysgogi masgynhyrchu, ac fel yr ysgogwyd y trydydd chwyldro diwydiannol yn sgil datblygu electroneg a chyfrifiaduron, bydd y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn gweld peiriannau, data ac algorithmau yn cael eu hymgorffori ym mhob agwedd ar ein bywydau.
Mae ein harian yn gynyddol rithwir; mae ein cartrefi yn fwyfwy clyfar. Mae technoleg bellach yn rheoli ein tegellau, ein boeleri, ein gallu i barcio hyd yn oed. Mae’r gofal iechyd a gawn ar fin cael ei drawsnewid yn ddirfawr wrth i’r gallu i adnabod eich genom personol ddod yn fwyfwy fforddiadwy. Er ein bod wedi dod i arfer â pheiriannau yn ein ffatrïoedd lle roedd gweithwyr ar un adeg, bydd yr awtomatiaeth hon yn mynd rhagddi ar frys.
Mae technoleg wedi sleifio i mewn i’n bywydau’n llechwraidd, i’r graddau ei bod bellach bron yn amhosibl dychmygu byd hebddi. Mae cyflymder y newid yn aruthrol. Mae pethau y cefais fy magu gyda hwy—disgiau hyblyg, casetiau, tapiau fideo—bellach yn ddiystyr. Ac yn fwy felly, mae’r pethau a gymerodd eu lle—DVDs a chrynoddisgiau—eisoes yn ddarfodedig hefyd o fewn cenhedlaeth. Mae Spotify a Netflix yn awr yn bethau greddfol i genedlaethau iau, ac mae’r ddau’n cael eu cynnal gan ddata mawr nad yw ond yn ffenomen sy’n perthyn i uwch-dechnoleg; mae ym mhobman ac mae’n siapio popeth.
Mae ein rhagdybiaethau ynglŷn â’r hyn sy’n bosibl yn cael eu herio’n gyson. Yr wythnos hon, clywsom am allu Elon Musk i ailddefnyddio roced. Fel y dywedodd:
Mae fel y gwahaniaeth rhwng cael awyrennau rydych yn cael gwared arnynt ar ôl pob taith awyr, a’u hailddefnyddio sawl gwaith.
Os yw goblygiadau teithiau gofod yr un fath â goblygiadau teithiau awyr yn ein bywydau bob dydd, maent yn enfawr. Pa mor fuan y bydd ceir diyrrwr, trydan di-wifr, argraffu 3D, a hyd yn oed teithiau gofod mor gyffredin â Netflix ac e-bost?
Mae llawer yn digwydd y tu ôl i’r llenni nad ydym yn ymwybodol ohono hyd yma. Nid mewn un diwydiant yn unig y mae newid yn digwydd, fel mewn chwyldroadau diwydiannol blaenorol, mae’n digwydd ar draws nifer o sectorau ar yr un pryd, ac mae hyn yn creu heriau newydd. Mae methodoleg Banc Lloegr yn awgrymu y gallai cymaint â 700,000 o swyddi fod mewn perygl o gael eu hawtomeiddio yng Nghymru o fewn 20 mlynedd—20 mlynedd. Gall cyfrifiaduron ac algorithmau gasglu data o ffynonellau llawer ehangach i wneud penderfyniadau cytbwys ar unrhyw beth o ffurflenni treth i driniaethau canser. Byddwn yn argymell gwrando ar iPlayer, nad oedd yn bodoli ei hun 10 mlynedd yn ôl, ar raglen Radio 4, ‘The Public Philosopher’, a gynhaliodd drafodaeth a oedd yn agoriad llygad ar yr union fater hwn. Yr hyn a oedd yn amlwg iawn oedd anghrediniaeth lwyr y mwyafrif helaeth o’r gynulleidfa y gallai unrhyw robot wneud eu swydd yn well na hwy, a’r sioc glywadwy wrth iddynt sylweddoli’r posibilrwydd y gallent. Un enghraifft nodedig oedd y meddyg teulu a oedd wedi gwrando wrth i hanner y gynulleidfa ddatgelu y byddai’n well ganddynt dderbyn diagnosis gan robot na chan fod dynol, ac mae un o bob pedair swydd yng Nghymru mewn perygl o’r fath.
Gadewch i ni fod yn glir: mae’r effaith hon yn amrywio rhwng y rhywiau. Yn ddiweddar, rhybuddiodd Banc y Byd, am bob tair swydd a gaiff eu colli gan ddynion, bydd un yn cael ei hennill. I fenywod, mae’r sefyllfa’n llawer gwaeth. Byddant yn colli pum swydd o ganlyniad i awtomatiaeth am bob swydd a gaiff ei hennill. Mae llywodraethau, busnesau, a sefydliadau byd-eang yn cael trafferth dal i fyny gyda chyflymder y newid, ac nid yw hynny’n syndod—mae hyn yn gythryblus. Ein rôl ni fel llunwyr polisi yw paratoi ar ei gyfer, ac ar hyn o bryd nid ydym yn gwneud hynny’n dda o gwbl. I’r perwyl hwn, byddaf yn cynnal cyfarfod o gwmpas y bwrdd ym mis Mehefin gyda rhai o gyflogwyr mwyaf Cymru ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i drafod sut y gallwn ymbaratoi ar gyfer yr her gyffredin hon, ac rwy’n falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet a chomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol wedi cytuno i ymuno â ni. Ond yn ogystal â pharatoi ar gyfer yr heriau, mae’n rhaid i ni fachu ar y cyfleoedd hefyd.
Mewn cyfarfod diweddar a gynhaliais ar y cyd â’r sefydliad gweithgynhyrchwyr EEF yn fy etholaeth gyda busnesau, dywedodd un gwneuthurwr wrthyf fod awtomatiaeth yn ei gwmni wedi rhoi hwb i gynhyrchiant a hefyd wedi galluogi ei gwmni i gyflogi mwy o staff. Felly, nid oes angen edrych ar awtomatiaeth fel bygythiad i swyddi bob amser, ond fel offeryn twf. Ac mae gan ddatblygiadau technolegol y potensial i greu sectorau newydd a fydd yn sbarduno swyddi newydd. Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous. Yn ddiweddar, mynychodd Julie James, fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am ddata, drafodaeth o amgylch y bwrdd a gynhaliais ar botensial amaethyddiaeth fanwl yng Nghymru. Nawr, nid ymwneud ag amaethyddiaeth syml y mae ffermio manwl, ac ni fydd y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn parchu ffiniau adrannol. Mae diwydiant newydd sbon yn cael ei yrru gan ein gallu i gasglu a dadansoddi data ar gyflymder a oedd yn annirnadwy o’r blaen. Ond mae gan Gymru gyfnod byr o amser i fanteisio ar y cenedlaethau o wybodaeth a ddatblygwyd gennym ym maes ffermio, a chymhwyso’r technolegau hyn sy’n dod i’r amlwg i dyfu diwydiant sydd â photensial byd-eang. Ac er mwyn deall ble y mae’r cyfleoedd hyn—lle y gall ein harbenigedd pwnc, ein pwynt gwerthu unigryw, gynnig mantais glir, gystadleuol i ni—mae angen adolygiad strategol brys ar unwaith.
Rhagwelir yn eang mai roboteg ac awtomatiaeth, seiberddiogelwch, data mawr, codeiddio arian, y marchnadoedd ariannol a genomeg yw’r diwydiannau allweddol sy’n deillio o’r pedwerydd chwyldro diwydiannol. Ac ar hynny y dylem ganolbwyntio. Ers gormod o amser, rydym wedi canolbwyntio ar ddulliau confensiynol, gan bryderu gormod ynglŷn ag osgoi troi’r drol. Ni allaf ddeall yn fy myw sut y gallwn gael naw sector blaenoriaeth, oherwydd pan fo popeth yn flaenoriaeth, nid oes dim yn flaenoriaeth. Ac rwy’n canmol y ffocws a roddwyd ar gynllun prentisiaeth Cymru, ac mae’n rhaid i ni wneud yr un peth i’n strategaeth economaidd gyfan, gan alluogi’r ffyrdd mwyaf effeithlon o dargedu adnoddau prin. Ac mae’n rhaid cael canllawiau clir ynglŷn â’r hyn y mae’r dirwedd ddiwydiannol newydd hon yn galw amdano o ran dull gweithredu, a bydd hyn yn galw am law fedrus i lywio llwybr anodd drwy ddarparu cyllid a chymorth amyneddgar sy’n canolbwyntio ar amcan penodol, gan osod amcan hirdymor y byddwn yn darparu cefnogaeth hirdymor ar ei gyfer, ond wedi’i gyfuno â dull arbrofol ar gyfer cyrraedd yr amcan hwnnw. A gadewch i ni fod yn glir, Dirprwy Lywydd: byddwn yn methu ar y ffordd, ac mae hynny’n iawn. Mae’n rhaid i ni fod yn agored ynglŷn â’r peth er mwyn dysgu oddi wrtho. Os meddyliwn am nifer o’r dyfeisiadau y siaradais amdanynt ar gychwyn fy araith—yr iPhone, teithiau gofod, technoleg ceir diyrrwr—gellir olrhain tarddiad pob un o’r rhain yn ôl i gyllid hirdymor ac amyneddgar y Llywodraeth.
Yn ôl pob golwg, y glasbrint hwn, y llwybr anodd hwn, yw’r hyn y mae strategaeth ‘Arloesi Cymru’ yn anelu i’w wneud. Ond â siarad yn onest, yr hyn sy’n gwneud y strategaeth hon yn rhyfeddol yw ei diffyg uchelgais, ac mae angen ei hadolygu ar frys. Nid wyf eisiau edrych yn ôl mewn 20 mlynedd a meddwl, ‘Mae’n drueni na fyddem wedi gwneud rhagor’. Nid wyf yn credu bod neb ohonom eisiau gwneud hynny. Felly, gadewch i ni ei gwneud yn her heddiw—a her yw hon; nid beirniadaeth—ein bod yn dyblu ein hymdrechion i fynd i’r afael â’r rhwystrau a chroesawu’r cyfleoedd, a’n bod yn ei wneud yn gyflym. Diolch.