7. 7. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Y Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:00, 5 Ebrill 2017

Rydw i’n falch i gefnogi’r cynnig sydd wedi cael ei roi gerbron y prynhawn yma. Fel y soniwyd, mae olwynion y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn barod yn troi. Mae gan ddatblygiadau technolegol megis deallusrwydd artiffisial a cherbydau ymreolaethol y potensial i ddadleoli swyddi traddodiadol, gydag arwyddocâd sylweddol i swyddi mewn sectorau pwysig i ni yng Nghymru, fel gweithgynhyrchu a phrosesu, fel yr ydym newydd ei glywed.

Rydw i’n cyfaddef bod nifer y swyddi a all gael eu dadleoli gan awtomatiaeth yn peri gofid ar yr arwyneb. Fel mae’r cynnig yn sôn, mae 700,000 o swyddi yng Nghymru o dan fygythiad awtomatiaeth, ac mae pobl sy’n ennill llai na £30,000 y flwyddyn yn fwy tebygol o golli eu swyddi na rhai ar gyflogau uchel. Fel y trafodom yn y Siambr hon yn ddiweddar, mae 40 y cant o bobl Cymru wedi’u cyflogi yn yr economi sylfaenol—mewn swyddi gweithgynhyrchu a phrosesu ar gyfer deunyddiau sylfaenol—ac y mae’r mwyafrif o’r swyddi hyn o dan fygythiad awtomatiaeth.

Wrth inni wynebu’r chwyldro diwydiannol nesaf, mae dau opsiwn gennym: i frwydro yn ei erbyn fel y gwnaeth y Ludiaid i’w peiriannau cotwm yn y ddeunawfed ganrif, neu gallwn arloesi er mwyn goroesi, a gwneud Cymru’n economi sy’n buddio o’r datblygiadau yma. Ond mae yna dri pheth sydd yn angenrheidiol i wneud hyn. Yn bennaf oll, mae’n rhaid sicrhau ein bod ni’n edrych i amddiffyn gweithwyr, a sicrhau bod ganddyn nhw’r cyfle gorau i wneud y gorau o’r datblygiadau yma. Mae’n rhaid sicrhau bod y system addysg yn datblygu’r gweithlu gyda’r sgiliau angenrheidiol i weithio gyda pheiriannau newydd. Mae’n rhaid hefyd sicrhau bod cyfleoedd addysgu gydol oes ar gael i gefnogi’r rhai sydd yn y swyddi sydd o dan fygythiad awtomatiaeth yn awr.

Oherwydd y niferoedd o bobl sydd gennym wedi’u cyflogi yn y sectorau yma, mae gennym botensial i symud gyda’r datblygiadau a hwyluso arbenigedd ynddynt. Ond i wneud hyn mae angen buddsoddiad a chymorth ar gwmnïau er mwyn datblygu’r seilwaith a’r sgiliau angenrheidiol. Fel y mae Fforwm Economaidd y Byd yn barod wedi ei ddweud, mae’n rhaid i lywodraethau gydweithio â busnesau er mwyn datblygu’r un arloesedd yn y sector preifat drwy ddatblygu sgiliau’r gweithlu a rhwydweithiau rhannu arfer da o ran arloesi. Ar hyn o bryd, gall busnesau gymryd mantais o gronfeydd megis SMART Cymru a SMART Innovation, sy’n cynnig grantiau i ddatblygu arloesedd, ond mae’r cronfeydd hyn wedi’u hariannu yn rhannol gan y gronfa datblygu rhanbarthol Ewropeaidd hyd at 2020. Wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, rhaid inni edrych ar barhad y cronfeydd angenrheidiol yma sy’n sicrhau bod cwmnïau yn gallu symud gyda’r amseroedd.

Yn olaf, rhaid sicrhau bod ein busnesau yn ymwybodol o’r datblygiadau yma, a sicrhau bod y cyfarpar ganddynt sy’n symud gyda’r amseroedd, yn hytrach na chael eu gadael ar ôl. Fel y mae ymchwil sefydliad gweithgynhyrchwyr yr EEF wedi sôn, dim ond 42 y cant o gwmnïau gweithgynhyrchu sydd yn ymwybodol o’r newidiadau posib a all ddod o awtomatiaeth, a dim ond 11 y cant yn credu bod y Deyrnas Unedig yn barod amdano. Rhaid i ni yng Nghymru, felly, ddangos y ffordd drwy fuddsoddi mewn datblygu sgiliau’r gweithlu, buddsoddi mewn arloesedd a sicrhau bod ein busnesau wedi’u paratoi am y newidiadau yma.

Felly, wrth inni edrych tuag at orwel y pedwerydd chwyldro diwydiannol, mae’n werth peidio â chwympo i mewn i’r trap o besimistiaeth ac ofni dyfodol dystopiaidd. Drwy gynllunio a gweithio gyda’r datblygiadau, yn hytrach nag yn eu herbyn, a thrwy weithio gyda gweithwyr a busnes, gall Cymru fod ar flaen y newidiadau hyn a dangos y ffordd i weddill y byd. Diolch yn fawr.