Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 5 Ebrill 2017.
Hoffwn ddiolch i Lee Waters am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw. Mae’r trafodaethau hyn yn gyfle gwerthfawr i edrych ar y darlun ehangach, a hefyd, o bryd i’w gilydd, i sganio’r gorwelion pell, a gobeithiaf wneud hynny yn y sylwadau hyn.
Yn ddiau, mae dyfodiad technoleg yn cynnig cyfleoedd i’n heconomi. Mae bargen ddinesig dinas-ranbarth bae Abertawe yn seiliedig ar gynorthwyo fy rhanbarth i ddod yn arfordir y rhyngrwyd a buddsoddi o ddifrif yn ein gallu digidol. Roedd y fforwm economaidd a gynhaliais yn ddiweddar yng Nghastell-nedd yn edrych ymlaen at rai o’r cyfleoedd economaidd a’r cyfleodd gwaith hyn, a’r modd—fel y clywsom y prynhawn yma—y gallwn baratoi ein hunain ar gyfer y cyfleoedd hynny. Ond roedd hefyd yn cydnabod rhai o’r heriau sydd o’n blaenau.
Un o’r heriau—fel y clywsom gan lawer o’r siaradwyr—yw’r posibilrwydd y gall awtomatiaeth ddileu swyddi ym mhob rhan o’n heconomi. Ac nid yw pob person sy’n gwneud y mathau o swyddi y byddwn yn eu colli yn mynd i allu manteisio ar y swyddi newydd sy’n cael eu creu, a dyna realiti sy’n rhaid i ni fynd i’r afael ag ef. A siarad yn gyffredinol, mae technoleg yn rhatach na llafur i fusnes. Efallai y bydd peth o’r elw ychwanegol y mae’n ei greu i fusnes yn cael ei drosglwyddo mewn costau is i’r defnyddiwr, ond bydd llawer ohono, yn amlwg, yn mynd i berchennog y busnes.
Yr her ar gyfer ein cymdeithas yw sut i ddal ein gafael ar beth o’r gwerth sydd dros ben o dechnoleg a’i harneisio er lles y cyhoedd, nid yn unig fel elw ariannol. Pam y mae angen i ni wneud hyn? Wel, oherwydd gyda phob swydd a gollir i awtomatiaeth, gallem golli cyflog sy’n cynnal aelwyd ac sy’n cael ei wario yn yr economi leol ac sydd, wrth gwrs, yn creu refeniw treth. Yn ddiweddar, argymhellodd Bill Gates dreth robot—ardoll ar dechnoleg i ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw’n syndod fod rhai pobl wedi ymosod ar hyn fel rhywbeth sy’n anymarferol, ond nid yw’n anodd gweld hyd yn oed pe bai’n gweithio, na fyddai ond yn ffurfio rhan fechan o’r gwerth y gallem weld ei golli yn yr economi ehangach o gyflogau a gollir, eto, yn lle’i fod yn cael ei wario mewn siopau lleol, heb sôn am y costau trwm posibl i unigolion. Felly, efallai y bydd angen i ni feddwl yn fwy beiddgar, ac rwy’n meddwl bod David Melding wedi cydnabod rhai o’r pwyntiau hyn eisoes yn ei gyfraniad a diolch iddo am dynnu sylw at rôl Henry Mackworth o Gastell-nedd.
Ond efallai y bydd angen inni edrych eto ar sut y caiff gwaith ei ddosbarthu mewn economi yn y dyfodol. Mae cyfnodau blaenorol o awtomatiaeth wedi arwain at ostyngiad i wythnos waith pum diwrnod. A ddaw amser pan fydd wythnos waith tri neu bedwar diwrnod yn arferol, neu gyfnodau hwy’n cael eu treulio mewn addysg statudol, gan ohirio dechrau bywyd gwaith? Dylem ystyried hyn i gyd. Ond i lawer, wrth gwrs, mae ymddeoliad cynnar anwirfoddol neu waith sy’n rhan-amser yn groes i ddymuniad y gweithiwr eisoes yn golygu hyn, a bydd eu profiad yn dweud wrthych ei fod yn golygu mwy neu lai yr un treuliau am lai o gyflog. Mae angen i’r rhan fwyaf o bobl weithio er mwyn cael y pethau sylfaenol. Felly, yr her sylfaenol yw sut rydym yn harneisio technoleg i leihau cost hanfodion bob dydd am dai, ynni, trafnidiaeth a bwyd, sy’n ffurfio cyfran fawr o wariant misol y rhan fwyaf o bobl. Sut y defnyddiwn dechnoleg i’n helpu i ailddefnyddio a chynnal ein hasedau, fel y clywsom mewn dadl gynharach, yn hytrach na thaflu neu hyd yn oed ailgylchu, fel bod bywyd gweddus yn gynaliadwy gyda llai o waith?
Mae gan lywodraethau rôl bwysig yn cymell datblygiadau yn y sectorau hyn a llunio polisi arloesedd sy’n diffinio gweithgareddau gwerth uchel, nid yn unig o ran twf economaidd, ond hefyd o ran byw yn fwy fforddiadwy. Mae eraill—sy’n llai optimistaidd ynglŷn â model cynaliadwy—wedi galw, unwaith eto, fel y soniodd David Melding, am incwm sylfaenol cyffredinol, a delir i bawb, waeth beth yw’r gwaith, i helpu gyda chostau cynhaliaeth. Ar hyn o bryd, gallaf weld llawer mwy o rwystrau na chyfleoedd, ond mae’n iawn inni archwilio a threialu rhai o’r opsiynau hyn. Yn fy marn i, dylai unrhyw system gymorth newydd adlewyrchu’r egwyddor o gyfraniad, ac eto ni all disgwyl cyfraniad yn unig drwy waith fod yn gymwys bellach yn yr amgylchedd hwnnw. Felly, efallai fod yr amser wedi dod i ddyfeisio dull o achredu unigolion am y gofal di-dâl; y gweithgaredd dinesig; y gwirfoddoli; y gwaith elusennol y mae cymaint o bobl yn ei wneud ac y mae ein cymdeithas yn dibynnu arno’n sylfaenol. Rydym yn methu rhoi gwerth ar y math hwn o waith yn ein heconomi, fel yr ydym yn methu rhoi gwerth ar yr hyn y gallem ei alw’n economi gysylltiadau personol—y gorchwylion lle y mae gofal, empathi, a’r cysylltiad dynol yn hollbwysig; gorchwylion ym maes iechyd, lles, gofal cymdeithasol ac yn y blaen; meysydd lle y ceir galw parhaus ac sy’n mynd i’r afael â rhai o’r nodweddion mwyaf parhaol yn ein byd modern—strwythurau teuluol sy’n newid, salwch meddwl, byw’n hwy, annibyniaeth ac anweithgarwch corfforol. Felly, mewn byd rhesymegol byddent yn cynnig twf mewn cyflogaeth, ac mewn byd tosturiol, twf mewn cyflogaeth weddus, gyda thâl priodol. Efallai mai’r brif etifeddiaeth y dylem obeithio amdani gan awtomatiaeth fydd ailddarganfod amser i gysylltu ac ysgogiad cymunedol, lle y mae technoleg yn cael gwared ar waith sy’n torri cefnau, lle y mae wedi lleihau costau byw, a lle y mae’n hyrwyddo ffordd o fyw sy’n fwy cynaliadwy a chefnogol i bawb. Efallai fod honno’n weledigaeth y gall pawb ohonom ei chofleidio.