Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 5 Ebrill 2017.
Wel, mae’n amlwg fod yna rhesymau eraill, hefyd, i gyfrif, ond yn sicr mi fyddai cyflwyno pleidlais gyfrannol yn gwella pethau. Rydym ni wedi gweld y sefyllfa mewn cynghorau lleol yn yr Alban. Yn sicr, mae yna llawer iawn mwy wedi bod yn cymryd rhan yn yr etholiadau yna. Rydw i’n meddwl bod angen system etholiadol newydd er mwyn codi hyder pobl yn ôl mewn gwleidyddiaeth, ac yn ôl Papur Gwyn y Llywodraeth ar ddiwygio llywodraeth leol, mae’r Llywodraeth wedi datgan bwriad i gyflwyno STV mewn etholiadau llywodraeth leol, ond bod hynny i fyny i’r cynghorau unigol ddewis a ydyn nhw am weithredu hyn ai pheidio. Ein polisi hirsefydlog ni ydy cyflwyno system STV, ond mi ddylai fo fod yn orfodol mewn etholiadau llywodraeth leol drwy Gymru gyfan. Mae hyn yn gallu golygu bod etholiadau llywodraeth leol yn llawer mwy cystadleuol, a bod cyfansoddiad llywodraeth leol ei hun yn clymu yn agosach at ddymuniadau’r boblogaeth, sydd felly yn cryfhau atebolrwydd llywodraeth leol, ac felly, yn y pen draw, yn gwella gwasanaethau cyhoeddus.
Felly, y cwestiwn ydy: a ydym ni am dderbyn annhegwch y broses bresennol? Ac, fel cenedl, os rydym ni wir yn credu bod pob dinesydd yn gyfartal, yna fe ddylem ni hefyd gredu, ac felly sicrhau, bod pob pleidlais yn gyfartal. Nid oes rheswm da dros beidio â chyflwyno STV ar gyfer etholiadau’r llywodraeth leol ar draws Cymru. Mae yna gyfle euraidd i wneud hynny rŵan, ond mae angen ei wneud o yn statudol i bob cyngor. Fel arall, nid ydw i’n meddwl y gwnaiff o ddigwydd. Weithiau, mae ystyriaethau ehangach am degwch a lles democratiaeth yn bwysicach na’r syniad o adael y penderfyniad i’r gwleidyddion lleol, ac efallai y byddai ei adael o i’r gwleidyddion lleol yn golygu eu bod nhw’n rhoi lles eu hunain gyntaf, a lles eu plaid nhw, cyn lles cyffredinol democratiaeth leol. Mae angen gwneud y newid cadarnhaol er budd democratiaeth yn ein cenedl. Rydw i’n gobeithio y cawn ni gefnogaeth i’r egwyddor hon drwy gefnogi ein gwelliannau ni yma heddiw. Diolch.