Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 5 Ebrill 2017.
Er fy mod yn disgwyl, yn ystod y ddadl hon, y bydd pobl yn siarad am benderfyniadau cyllido a goblygiadau’r rheini, roeddwn eisiau bwrw golwg sydyn ar y bwlch rhwng yr angen i wneud penderfyniadau’n lleol a’r datgysylltiad rhwng dinasyddion a’r rhai y maent ar hyn o bryd yn dirprwyo’r penderfyniadau hynny iddynt. Oherwydd mae’n ymddangos yn rhyfeddol i mi ei bod yn llawer haws cael mynediad at eich Aelod Cynulliad, a hyd yn oed aelod o’r Llywodraeth, nag at eich cynghorydd, neu aelod cabinet y cyngor yn enwedig. Ac wrth gwrs, mae gennym gynghorwyr sydd â hanes rhagorol o fod ar gael i drigolion, o siarad â hwy, o weithio gyda hwy, a hyd yn oed o ddatrys eu problemau. Ond o ystyried y gwaith achos a ddaw drwy ddrws fy swyddfa yn sgil y canfyddiad nad yw cynghorydd lleol yn gwneud unrhyw beth, neu nad yw’n ymateb iddynt, mae hyn yn bell o fod yn brofiad cyffredinol.
Mae Aelodau’r Cynulliad, a’r Cynulliad hwn yn ei gyfanrwydd, yn ymwybodol iawn fod angen i ni gyfathrebu ein diben a’n gwaith fel unigolion a gwaith a phwrpas y sefydliad cyfan i Gymru—ac nid yw’n hawdd; gwelsom hynny. Ond rydym yn cydnabod nad cylchlythyr hunanlongyfarchol, datganiad i’r wasg, neu arolwg ar wefan ddyrys, yw’r ffordd i wneud hyn. A chyda chanran mor siomedig a chymaint o seddi diwrthwynebiad yn etholiadau diwethaf y cyngor, rwy’n meddwl bod rhaid i gynghorau ofyn iddynt eu hunain pam y mae cyn lleied o ddiddordeb gan y cyhoedd ynddynt, ac rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni ofyn pam y maent i’w gweld yn ddigon bodlon â hynny.
Un o’r pethau a’m trawodd yn ystod fy nghyfnod fel Aelod Cynulliad yw pa mor anaml y mae’r cyhoedd yn cwyno am benderfyniad lleol. Rwy’n derbyn bod cynnydd wedi bod yn nifer rhyfelwyr cadair freichiau’r cyfryngau cymdeithasol, ond rwy’n meddwl bod yna deimlad go iawn, a chanfyddiad go iawn, mai ychydig iawn o effaith y mae anghymeradwyaeth y cyhoedd yn ei chael ar brosesau penderfynu cynghorau. Nawr, fel Aelodau Cynulliad, wrth gwrs, rydym yn ymwybodol o’r rhwymedigaethau y mae’r lle hwn yn eu gosod ar awdurdodau lleol mewn gwirionedd. Mae cynllunio, lleoedd ysgol, ailgylchu—hyd yn oed y Gymraeg—yn rhai o’r materion sy’n arwain at argymhellion gan awdurdodau lleol a all fod yn amhoblogaidd. Mae llawer o gynghorau, wrth gwrs, yn ddigon doeth i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru yn ddeddfol, gan ddefnyddio proses fel tarian i amddiffyn eu hymateb dewisol i’r cyfrifoldebau hynny. Ond yn fy rhanbarth i yn unig, sef Gorllewin De Cymru, rwy’n meddwl am yr ymdrech sydd ei hangen mewn gwirionedd i gael awdurdodau lleol i edrych eto ar y ffordd y maent am geisio cyflawni amcan. Weithiau, fel yn achos ysgol Parkland, mae dadl solet wedi’i chyflwyno’n dda yn erbyn cynnig yn ddigon i atal camgymeriad gwirion. Weithiau mae’n cymryd ymgyrch gymunedol hirdymor ddi-baid, fel y gwelsom—sydd ei hangen i ddwyn perswâd ar y cyngor i ddadbedestreiddio rhannau o ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft. Weithiau mae’n golygu mynd â phenderfyniad gwael gan gyngor at Lywodraeth Cymru a’u cael i newid canllawiau ar gyfer pob cyngor, fel y digwyddodd gydag ystyfnigrwydd Abertawe ynglŷn â mater llwybr diogel i’r ysgol. Weithiau, wrth gwrs, mae’n golygu mynd â chyngor i’r llys, fel gydag ysgol Llangeinwyr a’r ysgolion Catholig yn Abertawe, ar gost anferthol.
Daw rhan o’r parodrwydd hwn ar ran cabinetau cynghorau i eistedd yn ôl ac aros i’r helynt chwythu ei blwc, rwy’n meddwl, o hunanfoddhad a aned o reolaeth hirdymor plaid neu grŵp penodol ar gyngor. Mae craffu gan gynghorwyr y gwrthbleidiau, waeth pa mor dda y gallai fod, braidd yn ofer oni bai bod preswylwyr yn gwybod ei fod yn digwydd. Gallem wneud â llai o ffansîns cynghorau a ddosberthir ar gost y cyhoedd a thon o gynghorwyr y gwrthbleidiau i fynd ar gyfryngau cymdeithasol a thagio’u gwasg leol i’r gwaith a wnânt. Fel arall, mae’r cylch hwn o hunanfoddhad ac ymddieithrio yn mynd i barhau i droi. Mae’r hunanfoddhad yn cynnwys y sylw y bydd y rhai sy’n achwyn, ar ôl ychydig, i gyd yn cael llond bol ac yn darganfod, wedi’r cyfan, mai’r cyngor oedd yn iawn o’r cychwyn.
Ond y peth yw, bydd cymaint o’r penderfyniadau yn rhai na fyddant yn iawn yn y pen draw. Rwyf am edrych ar Abertawe’n unig: bysiau plygu, Ffordd y Brenin angheuol, y rhodfa rodresgar, gosod concrit dros Erddi’r Castell a’i ailblannu yn awr, parcio yn nhŵr Meridian—roedd y cilfachau parcio yn rhy fach—Parc y Werin, gosod y peiriannau Nowcaster nad ydynt yn gweithio o hyd, gwerthu hawliau enwi Stadiwm Liberty am 4c, gwahardd bagiau bin o domen Garngoch a gorfod mynd â hwy yno’n awr wedi’r cyfan, ac wrth gwrs, prynu peiriannau didoli deunydd ailgylchu a methu eu defnyddio wedyn oherwydd eu rheoliadau cynllunio eu hunain.
Nawr, rhan o bwrpas lleoliaeth, yr hawl i wneud cais, yr hawl i herio, refferenda lleol, twf grwpiau preswylwyr a grwpiau cymunedol yn eistedd ochr yn ochr â’r cyngor, gyda dylanwad go iawn—nid dim ond y mwynhad o dicio blychau mewn ymgynghoriad ar y we—yw ymrwymiad: cydgyfrifoldeb. Nid cyfraith y dorf, ond dealltwriaeth o gydgynhyrchu a chreu llwybr newydd o gyfathrebu ynghylch heriau cymhleth a’r camau y mae’n ei gymryd i roi sylw iddynt a pham eu bod yn fater i bawb.
Nawr, byddwn wedi hoffi cael amser i siarad am bartneriaethau gyda busnesau. Mae’r ffaith fod grwpiau cymunedol ac awdurdodau lleol i’w gweld yn meddiannu’r diriogaeth gyfan ar gyfer cyllido cyfalaf cymunedol, heb estyn allan at fusnesau lleol, er enghraifft, yn gyfle a wastraffwyd, ond mae amser yn fy erbyn, felly rwyf am ei gadael gyda gwahoddiad i gynghorau beidio ag ofni eich preswylwyr ond eu cael i rannu’r baich.