Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 2 Mai 2017.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, ac, yn bellach i hynny, a allaf i ofyn pa fesurau sydd mewn lle, dan law Llywodraeth Cymru, i sicrhau cyflenwad digonol o wasanaethau gofal yn y cartref i’n henoed ni, a’r sawl efo anableddau, o gofio’r galw cynyddol am y gwasanaethau yma a’r prinder arian i’w darparu i ddiwallu’r angen cynyddol yma?