1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 2 Mai 2017.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol? OAQ(5)0573(FM)
Mae gofal cymdeithasol yn sector o bwysigrwydd strategol cenedlaethol. Mae’r maes wedi cael ei amddiffyn trwy fuddsoddi £55 miliwn o arian ychwanegol ar gyfer 2017-18, ynghyd â £60 miliwn i’r gronfa gofal integredig.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, ac, yn bellach i hynny, a allaf i ofyn pa fesurau sydd mewn lle, dan law Llywodraeth Cymru, i sicrhau cyflenwad digonol o wasanaethau gofal yn y cartref i’n henoed ni, a’r sawl efo anableddau, o gofio’r galw cynyddol am y gwasanaethau yma a’r prinder arian i’w darparu i ddiwallu’r angen cynyddol yma?
Wrth gwrs, rwyf wedi sôn am y gronfa gofal integredig a’r arian sydd wedi cael ei fuddsoddi yn hwnnw, a’r arian newydd sydd wedi cael ei ddatgan yn barod. Rydym ni’n gweld hwn yn cael effaith, wrth gofio am y ffaith ynglŷn â throsglwyddo o’r ysbyty i ofal, a bod unrhyw fath o oedi ynglŷn â hynny wedi mynd lawr i’w lefel isaf am 12 mlynedd.
Prif Weinidog, roeddech chi eisoes yn gwybod fy mod yn flin bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi torri £2 filiwn o'i gyllideb gofal cymdeithasol, er gwaethaf £2 biliwn ychwanegol gan Lywodraeth y DU ac, yn wir, arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru hefyd. Nawr, dywedodd eich Gweinidog wrthyf ychydig cyn y toriad y byddai rhywfaint o arian yn amodol wrth iddo fynd i gynghorau—na fyddai arian yn mynd iddyn nhw oni bai y gellid dangos y byddai'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gofal cymdeithasol yn hytrach na blaenoriaethau eraill. Nawr, gwn y byddwch chi wedi archwilio'r holl gyllidebau cyngor yng Nghymru, felly a allwch chi ddweud wrthyf, ydych neu nad ydych, pa un a ydych chi’n sicr y bydd yr holl arian y mae'r Gweinidog wedi ei neilltuo ar gyfer gofal cymdeithasol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gofal cymdeithasol ac nid ar gyfer blaenoriaethau sy'n cystadlu?
'A oes etholiad ddydd Iau?', gofynnaf i mi fy hun. Rwy'n siŵr bod hynna i gyd yn ymwneud â'r cwestiwn a ofynnwyd. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrth yr Aelod yw hyn: rwy’n meddwl bod awdurdodau ledled Cymru wedi gwneud yn dda iawn o ran darparu gwasanaethau cymdeithasol, er gwaethaf y toriadau sydd wedi dod gan ei phlaid hi, a’i phlaid hi mewn Llywodraeth yn Llundain yn wir. Rydym ni wedi gweld yr argyfwng ym maes gofal cymdeithasol yn Lloegr. Mae hwnnw’n argyfwng nad ydym ni wedi ei gael yng Nghymru oherwydd y buddsoddiad yr ydym ni wedi ei wneud mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru ac, wrth gwrs, yr £20 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd eisoes. Y peth olaf yr ydym ni ei eisiau yw mewnforio y math hwnnw o anhrefn i Gymru.
Prif Weinidog, yn sgil cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gwelsom gynnydd sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf o ran integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn well, er gwaethaf rhai o'r sylwadau sy'n cael eu gwneud heddiw. Yn arbennig, rwy’n sôn am y ganolfan ddiogelu amlasiantaeth yn ardal Cwm Taf, a chanolfan iechyd Keir Hardie. A ydych chi’n cytuno â mi, Prif Weinidog, mai un o flaenoriaethau cynnar unrhyw gyngor newydd sy'n dod i fodolaeth ar ôl 4 Mai ddylai fod adeiladu ar y gwaith rhagorol a wnaed hyd yma gan gynghorau Llafur presennol, fel y gwaith yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful?
Rwy'n canmol gwaith cyngor Merthyr yn fawr iawn, ac edrychaf ymlaen at y gwaith hwnnw’n parhau yn yr wythnosau nesaf i ddod.
Prif Weinidog, rydym ni’n prysur agosáu at bwynt lle mae gofal cymdeithasol yn anfforddiadwy, ac, oni bai ein bod ni’n cymryd camau brys, rydym ni’n wynebu'r posibilrwydd gwirioneddol y galla’r system chwalu. Mae Llywodraethau olynol wedi methu â chymryd y boblogaeth sy'n heneiddio i ystyriaeth a chynllunio'n briodol ar gyfer galw yn y dyfodol. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sut i sicrhau bod gan y sector gofal cymdeithasol ddigon o arian i ddarparu gofal o'r radd flaenaf i bawb sydd ei angen nawr ac yn y dyfodol?
Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig yn hynny o beth. Rydym ni’n gwybod bod galw yn parhau i gynyddu, ac mae’n rhaid cael trafodaethau yn y gymdeithas o ran sut y gellir bodloni’r galw hwnnw. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid cael trafodaethau rhwng Llywodraethau’r DU, gan fod pobl yn symud rhwng gwledydd y DU, ond rydym ni wedi sicrhau bod digon o gyllid ar gyfer gofal cymdeithasol. Rydym ni wedi cynyddu’r cyllid hwnnw. Ond, wrth gwrs, mae'n hynod o bwysig yn yr hirdymor i feddwl yn ofalus am sut y dylid ariannu gofal cymdeithasol yn y blynyddoedd i ddod.