Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 2 Mai 2017.
Mae’r achos dros gael ysgol feddygol i wasanaethau’r gogledd, a rhannau gwledig ein gwlad, yn glir a chadarn. Fe fydd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gwario dros £21 miliwn ar gyflogi staff meddygol o asiantaethau preifat yn yr 11 mis hyd ddiwedd Chwefror eleni. Ac mae’r coleg—y Royal College of Physicians—yn crynhoi’r sefyllfa mewn un frawddeg:
‘There are simply not enough doctors out there’.
Byddai sefydlu ysgol feddygol ym Mangor yn rhan o’r broses o hyfforddi’r doctoriaid ychwanegol sydd eu hangen yng Nghymru. Felly, pryd yn union fydd yr achos busnes yn cael ei gyhoeddi, a phryd fydd y camau sydd eu hangen i sefydlu’r ysgol feddygol yn cael eu rhoi ar waith?