1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 2 Mai 2017.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau ar gyfer ysgol feddygol i ogledd Cymru? OAQ(5)0562(FM)[W]
Mae gwaith ar y gweill i benderfynu ar y dull priodol o fynd ati i sicrhau addysg a hyfforddiant meddygol cynaliadwy yn y gogledd, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn gwneud datganiad yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mae’r achos dros gael ysgol feddygol i wasanaethau’r gogledd, a rhannau gwledig ein gwlad, yn glir a chadarn. Fe fydd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gwario dros £21 miliwn ar gyflogi staff meddygol o asiantaethau preifat yn yr 11 mis hyd ddiwedd Chwefror eleni. Ac mae’r coleg—y Royal College of Physicians—yn crynhoi’r sefyllfa mewn un frawddeg:
‘There are simply not enough doctors out there’.
Byddai sefydlu ysgol feddygol ym Mangor yn rhan o’r broses o hyfforddi’r doctoriaid ychwanegol sydd eu hangen yng Nghymru. Felly, pryd yn union fydd yr achos busnes yn cael ei gyhoeddi, a phryd fydd y camau sydd eu hangen i sefydlu’r ysgol feddygol yn cael eu rhoi ar waith?
Wel, fel y dywedais i, bydd yna ddatganiad yn yr wythnosau nesaf. Bydd y Gweinidog yn ystyried hyn yr wythnos hon a’r wythnos nesaf, felly bydd yna ddatganiad yn dod yn weddol gyflym. Ond mae’n hollbwysig i sicrhau bod unrhyw gynlluniau yn gynlluniau sydd yn gynaliadwy yn y pen draw, ac mae hyn yn rhan o’r ystyriaeth sydd yn cael ei rhoi i’r mater hwn.
Mae blynyddoedd lawer ers i mi drafod gyntaf yr angen am ysgol feddygol ym Mangor gyda'i his-ganghellor blaenorol, ac rwyf wedi parhau i gael y trafodaethau hynny ers hynny. Mae tair blynedd ers i Bwyllgor Meddygol Lleol Gogledd Cymru rybuddio, mewn cyfarfod yn y Cynulliad, bod ymarfer cyffredinol yn y gogledd, yn eu geiriau nhw, yn wynebu argyfwng, yn methu â llenwi swyddi gwag, gyda meddygon teulu yn ystyried ymddeol. A thynnwyd sylw ganddynt at y ffaith bod y cyflenwad blaenorol o ysgol feddygol Lerpwl wedi cael ei dorri i raddau helaeth, o’r lle yr oedd eu cenhedlaeth nhw wedi dod yn bennaf. O ystyried eich bod wedi cytuno i wneud yr achos busnes dros ysgol feddygol newydd ym Mangor, sut gwnewch chi sicrhau bod hynny'n cynnwys deialog gyda Lerpwl, ochr yn ochr â Bangor, er mwyn sicrhau ein bod ni’n cadw meddygon lleol yn lleol?
Wel, y broblem, wrth gwrs, yw bod Bangor mewn ardal lle mae'r boblogaeth yn eithaf bach, o’i chymharu â chanolfannau eraill lle y ceir ysgol feddygol. Felly, ceir problemau o ran sut y gallai ysgol feddygol o'r fath weithio'n agos gydag ysgolion meddygol eraill—yng Nghymru, neu yn Lloegr, neu yn rhywle arall, o ran hynny. Yr hyn sy'n hynod o bwysig yw bod unrhyw ysgol feddygol yn gynaliadwy, a'i bod yn gweithio'n agos ag eraill er mwyn sicrhau bod y cynaliadwyedd hwnnw yno yn y dyfodol.
Bydd graddedigion yn dod yn ôl i weithio yng Nghymru os yw’r awydd a’r gallu ganddynt i wneud hynny. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen hefyd i'r Llywodraeth edrych ymhellach ar ffyrdd y gall wella’r cynnig bywyd i bobl y gogledd, gan fod yr ymadawiad hwn o dalent yn dangos, yn rhy aml, bod y rhai sy'n symud allan o Gymru i hyfforddi neu weithio yn aml yn gwneud hynny’n barhaol?
Wel, mae’r ymgyrch sydd gennym ni ar waith i recriwtio staff meddygol yn gweithio'n dda. Rydym ni wedi cael llawer iawn o ddiddordeb gan bobl ym mhob maes meddygaeth. Yn y pen draw, mae ffordd o fyw yn bwysig i bobl, ond mae her broffesiynol yn bwysig. Mae pobl eisiau mynd i rywle lle bydd eu gwaith yn ddiddorol iddynt, lle maen nhw’n teimlo y byddant yn cael eu herio o safbwynt meddygol, ac, wrth gwrs, maen nhw eisiau byw yn rhywle lle maen nhw’n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi. Mae'r ymgyrch yr ydym ni wedi ei rhoi ar waith wedi amlinellu’r holl faterion hyn i ddarpar ymarferwyr meddygol sy'n dymuno dod i Gymru, ac mae'r ymateb wedi bod yn galonogol.