Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 2 Mai 2017.
Wel, y broblem, wrth gwrs, yw bod Bangor mewn ardal lle mae'r boblogaeth yn eithaf bach, o’i chymharu â chanolfannau eraill lle y ceir ysgol feddygol. Felly, ceir problemau o ran sut y gallai ysgol feddygol o'r fath weithio'n agos gydag ysgolion meddygol eraill—yng Nghymru, neu yn Lloegr, neu yn rhywle arall, o ran hynny. Yr hyn sy'n hynod o bwysig yw bod unrhyw ysgol feddygol yn gynaliadwy, a'i bod yn gweithio'n agos ag eraill er mwyn sicrhau bod y cynaliadwyedd hwnnw yno yn y dyfodol.