Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 2 Mai 2017.
Neil Hamilton ac UKIP—ysgafn ar droseddu. Fe’i clywsoch yma yn y Cynulliad hwn am y tro cyntaf. Ddim yn cefnogi polisi i gynyddu nifer yr heddweision ar y strydoedd, i gynyddu nifer swyddogion yr heddlu yn ein cymunedau.
Rydym ni wedi egluro sut y bydd hyn yn cael ei dalu amdano—trwy ailgyflwyno’r gyfradd flaenorol o dreth enillion cyfalaf. Nid wyf yn gweld ei bwynt am bensiynwyr yn colli allan oherwydd treth enillion cyfalaf. Nid wyf yn gwybod pa un a yw’n sôn am dreth etifeddiant, neu os yw wedi drysu rhwng y ddwy, ond nid wyf yn gweld sut mae hynny'n gweithio. Mae treth enillion cyfalaf yn effeithio ar y bobl hynny sydd â’r mwyaf o arian. Mae’n hollol iawn i ofyn i’r bobl hynny â’r mwyaf o arian i dalu mwy i ariannu ein swyddogion yr heddlu ar y stryd.
Ni fu amser rhatach erioed i fenthyg arian ar farchnadoedd ariannol y byd. Gwnaeth Llywodraeth Lafur y 1940au hyn, gan adeiladu’r gwasanaeth iechyd, adeiladu’r wladwriaeth les ac ailadeiladu economi Prydain o sefyllfa lawer gwaeth na wnaeth y Torïaid.
Mae unigolion yn gwybod os ydych chi eisiau prynu tŷ, mae gennych chi forgais. Rydych chi’n ad-dalu’r morgais hwnnw dros 20 i 30 mlynedd. Mae gennych chi ased ar ei ddiwedd y gallwch ei ddefnyddio fel y dymunwch. Nid ydynt yn deall hynny yn y Blaid Geidwadol. Ni fu gan lawer ohonynt forgeisi erioed, wrth gwrs. Nid ydynt yn gwybod beth yw’r cysyniad. Mae pethau’n cael eu rhoi iddyn nhw ar blât. Felly, o'n safbwynt ni, rydym ni’n gwybod bod y cyhoedd yn deall eich bod chi’n benthyg er mwyn creu ased sy’n werth llawer mwy wedyn. Mae hynny wedi gweithio i unigolion, bydd yn gweithio i Brydain a dyna'r math o weledigaeth yr ydym ni ei heisiau—gweledigaeth sy'n ailadeiladu Prydain, nid un sy'n gadael iddi lithro.