1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 2 Mai 2017.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae Diane Abbott, Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid, wedi cyhoeddi bod y Blaid Lafur yn bwriadu recriwtio 10,000 o swyddogion yr heddlu ychwanegol yng Nghymru a Lloegr, a fyddai'n golygu bron i 1,000 yn ychwanegol yng Nghymru. Ond, roedd hi braidd yn aneglur ynghylch cost y cynnig hwn, gan gyhoeddi’n gyntaf oll ei fod yn mynd i gostio £300,000, a fyddai'n gyflog cyfartalog o £30 i blismon. Yn ail, aeth i fyny i £8,000 y flwyddyn—£80 miliwn. Efallai y gallai'r Prif Weinidog gynnig ei farn ei hun ar hygrededd y polisi hwn, a beth yw'r ffigurau gwirioneddol.
Rwy'n credu ei bod hynod bwysig ein bod ni’n gweld mwy o heddweision ar y strydoedd, mwy o swyddogion yr heddlu—10,000 ohonynt. Rwy'n credu y bydd pobl yn sicr yn cefnogi hynny. Gofynnodd y cwestiwn o ble y daw'r arian. Mae’n eithaf syml—£300 miliwn y flwyddyn dros gyfnod o bum mlynedd; £2.7 biliwn yw’r pot a fydd yn cael ei greu trwy ailgyflwyno’r lefelau blaenorol o dreth enillion cyfalaf. Felly, £1.5 biliwn, gydag £1.2 biliwn yn weddill. Dyna'r fathemateg.
Wel, mae’n amlwg nad yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol o'r hyn a ddigwyddodd y tro diwethaf y cynyddwyd treth enillion cyfalaf, yn 2010. Oherwydd, yn 2010, codwyd cyfradd y dreth enillion cyfalaf o 18 y cant i 28 y cant. Ac, er ei bod yn codi £8.23 biliwn y flwyddyn cyn 23 Mehefin 2010, cododd £3.3 biliwn y flwyddyn ar ôl 23 Mehefin 2010. Felly, mewn gwirionedd, roedd toriad i refeniw’r dreth enillion cyfalaf o £4.9 biliwn y flwyddyn. Felly, sut bydd y cynnydd hwn i niferoedd plismyn yn cael ei dalu amdano gyda llai o refeniw treth?
Wel, y cwbl mae’n ei wneud yw dychwelyd y gyfradd i’r hyn yr oedd hi o’r blaen—o 20 y cant i 28 y cant ar y lefel uwch, ac o 18 y cant i fyny ar y lefel is. Dyna’r ffordd y bydd hyn yn cael ei dalu amdano. Y cwbl mae hynny’n ei olygu yw ailgyflwyno cyfradd dreth a oedd yno o'r blaen, nid rhywbeth sy'n newydd.
Y pwynt yr oeddwn i’n ei wneud i'r Prif Weinidog oedd, o ganlyniad i godi cyfradd y dreth enillion cyfalaf, bod y refeniw a godwyd o’r dreth wedi gostwng, nid cynyddu. Felly, o ganlyniad, lleihawyd y sylfaen dreth gan y gall pobl ohirio troi enillion cyfalaf yn arian. A dweud y gwir, y bobl sydd fwyaf tebygol o fod eisiau gwireddu enillion cyfalaf yw pensiynwyr nad ydynt yn gallu fforddio byw ar eu hincwm. Felly, mae hwn yn gynnydd i dreth mewn gwirionedd sydd yn targedu i raddau helaeth iawn y bobl sy'n gallu fforddio ei thalu leiaf. [Torri ar draws.] Ond efallai fod y cynllun ariannol anllythrennog sydd wedi cael ei roi ger ein bron gan y Blaid Lafur yn rhan o'r cynllun cyffredinol yr ymrwymodd ei hun iddo, yn fy mhresenoldeb i mewn stiwdio deledu yng Nghaerdydd dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, sef cynyddu benthyca gan £500 biliwn y flwyddyn. A yw ef wir yn credu bod hygrededd Llywodraeth y DU yn y marchnadoedd ariannol rhyngwladol yn mynd i gael ei wella gan bolisi mor wirion?
Neil Hamilton ac UKIP—ysgafn ar droseddu. Fe’i clywsoch yma yn y Cynulliad hwn am y tro cyntaf. Ddim yn cefnogi polisi i gynyddu nifer yr heddweision ar y strydoedd, i gynyddu nifer swyddogion yr heddlu yn ein cymunedau.
Rydym ni wedi egluro sut y bydd hyn yn cael ei dalu amdano—trwy ailgyflwyno’r gyfradd flaenorol o dreth enillion cyfalaf. Nid wyf yn gweld ei bwynt am bensiynwyr yn colli allan oherwydd treth enillion cyfalaf. Nid wyf yn gwybod pa un a yw’n sôn am dreth etifeddiant, neu os yw wedi drysu rhwng y ddwy, ond nid wyf yn gweld sut mae hynny'n gweithio. Mae treth enillion cyfalaf yn effeithio ar y bobl hynny sydd â’r mwyaf o arian. Mae’n hollol iawn i ofyn i’r bobl hynny â’r mwyaf o arian i dalu mwy i ariannu ein swyddogion yr heddlu ar y stryd.
Ni fu amser rhatach erioed i fenthyg arian ar farchnadoedd ariannol y byd. Gwnaeth Llywodraeth Lafur y 1940au hyn, gan adeiladu’r gwasanaeth iechyd, adeiladu’r wladwriaeth les ac ailadeiladu economi Prydain o sefyllfa lawer gwaeth na wnaeth y Torïaid.
Mae unigolion yn gwybod os ydych chi eisiau prynu tŷ, mae gennych chi forgais. Rydych chi’n ad-dalu’r morgais hwnnw dros 20 i 30 mlynedd. Mae gennych chi ased ar ei ddiwedd y gallwch ei ddefnyddio fel y dymunwch. Nid ydynt yn deall hynny yn y Blaid Geidwadol. Ni fu gan lawer ohonynt forgeisi erioed, wrth gwrs. Nid ydynt yn gwybod beth yw’r cysyniad. Mae pethau’n cael eu rhoi iddyn nhw ar blât. Felly, o'n safbwynt ni, rydym ni’n gwybod bod y cyhoedd yn deall eich bod chi’n benthyg er mwyn creu ased sy’n werth llawer mwy wedyn. Mae hynny wedi gweithio i unigolion, bydd yn gweithio i Brydain a dyna'r math o weledigaeth yr ydym ni ei heisiau—gweledigaeth sy'n ailadeiladu Prydain, nid un sy'n gadael iddi lithro.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ym mis Mehefin y llynedd dywedasoch nad oedd gan Lafur unrhyw obaith o ennill etholiad cyffredinol. Pam ydych chi wedi neidio oddi ar y llong?
Nid wyf yn siŵr fy mod i’n deall y cwestiwn yna. Gwn fod gan y Blaid Lafur well cyfle i ennill yr etholiad, efallai, na Phlaid Cymru. Ond, o'n safbwynt ni, byddwn yn gweithio'n galed fel, yn wir, yr wyf yn gwybod y bydd ei phlaid hithau’n ei wneud, i sicrhau cymaint o bleidleisiau â phosibl rhwng nawr ac 8 Mehefin.
Yn union yr un wythnos i chi ddweud nad oedd gan Lafur unrhyw obaith o ennill etholiad cyffredinol, ymddiswyddodd un o'ch ASau mainc flaen blaenllaw yn San Steffan gan ddirmygu eich arweinydd, Jeremy Corbyn. Rydych chi wedi ei benodi nawr fel eich cydgysylltydd etholiad ar gyfer Cymru. Rydym ni wedi gweld pum gwahanol Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wrthblaid gan y Blaid Lafur ers etholiad diwethaf y DU, pedwar yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Nid yn unig yr ydych chi wedi neidio oddi ar y llong, rydych chi i gyd yn ffraeo dros y badau achub. Prif Weinidog, mae hyn yn aflerwch llwyr. A ydych chi wir yn disgwyl i bobl sydd wedi ymddiried yn eich plaid cyhyd i fod ag unrhyw ffydd yng ngallu eich plaid i amddiffyn Cymru?
Fe wnaethom y llynedd. Dangosodd Llafur Cymru y gallai amddiffyn pobl Cymru y llynedd a phleidleisiodd pobl Cymru fel y gwnaethant, a byddwn yn parhau i wneud yr un fath eleni. O'n safbwynt ni, byddwn yn sefyll dros Gymru yn San Steffan. Nid ydym ni eisiau i’r Torïaid i sathru ar Gymru.
Y fath hunanfodlonrwydd. Prif Weinidog, mae pobl angen plaid genedlaethol Cymru sy'n mynd i warchod buddiannau'r genedl hon, plaid a fydd yn amddiffyn y sefydliad hwn, a fydd yn amddiffyn swyddi Cymru, pensiynau pobl a'n GIG. Nid yw Llafur mewn unrhyw gyflwr addas i amddiffyn Cymru ac felly Plaid Cymru yw plaid genedlaethol Cymru.
Yfory, bydd pleidlais arall eto ar gael gwared ar gontractau dim oriau. Hwn fydd y seithfed tro i ni gael pleidlais ar hyn. Chwe gwaith, mae Llafur a'r Torïaid wedi pleidleisio gyda'i gilydd yn erbyn cynigion Plaid Cymru i roi terfyn ar gontractau dim oriau. Dywedwch wrthyf, Prif Weinidog, a ydych chi’n mynd i'w wneud yn saith gwaith yfory? A fyddwch chi’n pleidleisio gyda'r Torïaid yn erbyn gweithwyr Cymru ac yn erbyn buddiannau cenedlaethol Cymru unwaith eto?
Wel, mae wedi bod yn gamsyniad ym Mhlaid Cymru erioed mai Plaid Cymru sy’n sefyll dros fuddiannau cenedlaethol Cymru. Pe byddai hynny’n wir, byddent yn gwneud yn well o lawer mewn etholiadau nag y maen nhw. Ac rwy’n gresynu at y syniad, rywsut, bod gan un blaid fonopoli ar wladgarwch neu o ran amddiffyn buddiannau Cymru. Nawr, gwn, yn anochel, yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, ein bod ni’n mynd i gael cwestiynau yn y Siambr hon sy'n effeithio ar yr etholiad cyffredinol; rydym ni i gyd yn gwybod hynny. Ond rwy’n credu bod pobl yn haeddu cael cwestiynau wedi’u gofyn iddynt am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd os ydych chi yng Nghymru yn y Cynulliad. Mae contractau dim oriau yn broblem. Nid ydym yn cefnogi contractau dim oriau. Mae hi’n ceisio awgrymu, rywsut, mewn egwyddor, ein bod ni’n meddwl eu bod nhw’n rhywbeth da. Nid ydym yn credu eu bod nhw’n rhywbeth da, ond am unrhyw nifer o resymau dros yr ychydig achlysuron diwethaf mae hi’n gwybod y bu problemau’n ymwneud â’r hyn y mae Plaid Cymru eisiau ei wneud a fyddai, mewn rhai achosion, yn peryglu hynt deddfwriaeth oherwydd y diffyg eglurder ynghylch cymhwysedd datganoledig. A realiti'r sefyllfa yw ein bod ni wedi arwain y ffordd pan ddaw i gael gwared ar gontractau dim oriau: rydym ni wedi gwneud hynny mewn Llywodraeth, rydym ni wedi gwneud hynny mewn sefydliadau a ariennir gan y Llywodraeth. Mae hi wedi siarad; rydym ni wedi gwneud.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Llywydd. A gaf i yn gyntaf oll groesawu'r clerc newydd i'r Cynulliad? Dyma ei sesiwn cwestiynau i’r Prif Weinidog gyntaf, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf y byddwch chi yn y swydd a wnaed mewn ffordd mor glodwiw gan Claire Clancy. Prif Weinidog, rydych chi newydd ddweud eich bod chi eisiau i gwestiynau gael eu gofyn i chi sy'n berthnasol i'r lle hwn, ac rwyf eisiau sôn am adroddiad yr archwilydd cyffredinol yr wythnos diwethaf am Gylchffordd Cymru a chyllid Cylchffordd Cymru, ac, yn benodol, y pwyntiau a wnaed gan yr archwilydd cyffredinol ar arian Llywodraeth—arian Llywodraeth Cymru—yn cael ei ddefnyddio i brynu cwmni beiciau modur yn Swydd Buckingham a aeth yn fethdalwr. A yw hynny'n ddefnydd da o arian trethdalwyr Cymru: gwerth £300,000 o arian trethdalwyr Cymru i brynu cwmni beiciau modur yn Swydd Buckingham a aeth yn fethdalwr wedyn? Ac, os nad yw'n ddefnydd da o arian trethdalwyr Cymru, a wnewch chi ymddiheuro am hynny?
Edrychwch, rydym ni newydd gael adroddiad yr wythnos diwethaf lle dangoswyd bod y gronfa cyffuriau canser wedi gwastraffu £1 biliwn o arian cyhoeddus. Felly, nid wyf yn mynd i gymryd gwersi am hynny gan y blaid Geidwadol. [Torri ar draws.] Gofynnodd y cwestiwn, a'r ateb, yn eithaf syml, yw hyn: pryd bynnag y bydd gennym ni brosiect fel Cylchffordd Cymru, bydd risgiau. Mae’n rhaid rheoli’r risgiau hynny yn dderbyniol. Mae Cylchffordd Cymru yn dal i fod yn bosibl. Rydym ni’n edrych i weld a ellir llunio model i fwrw ymlaen â’r prosiect, ac rydym ni’n credu y byddai pobl Blaenau Gwent a phobl Cymru yn disgwyl i ni wneud hynny. Yn anochel, pryd bynnag y bydd unrhyw fath o brosiect, ceir risg. Mae banciau yn gwneud hyn. Pan fydd banciau yn benthyca arian, maen nhw’n cydnabod bod lefel o risg, ond mae’n rhaid i’r risg honno fod yn dderbyniol. Mae’r un fath i Lywodraeth.
Dyna'r ateb rhyfeddaf i mi ei gael gennych yn y chwe blynedd yr wyf i wedi sefyll yma, Prif Weinidog. Gofynnais gwestiwn syml i chi am arian Llywodraeth Cymru a ddefnyddiwyd i brynu cwmni beiciau modur yn Swydd Buckingham a aeth yn fethdalwr—£300,000 y gwnaeth yr archwilydd cyffredinol, mewn adroddiad a gyhoeddwyd ganddo yr wythnos diwethaf—. Ac rydych chi wedi galw am gwestiynau sy'n berthnasol i chi yn eich swydd fel Prif Weinidog, ac nid ydych chi’n credu y bydd angen i chi egluro hynny, na hyd yn oed ymddiheuro am y ffaith honno. Yn ail, amlinellodd yr adroddiad sut y gwnaeth swyddogion dynnu sylw Gweinidogion at y ffaith eu bod yn credu y byddech chi’n torri rheolau cymorth gwladwriaethol trwy ganiatáu’r gwarant benthyciad o £7.3 miliwn i gael ei gyflwyno, ac yna ei dynnu allan. Nawr, rhoddodd swyddogion y cyngor hwnnw i Weinidogion. Ni allai’r archwilydd cyffredinol ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth i wrth-ddweud y cyngor hwnnw a roddwyd i Weinidogion. Felly, pam wnaeth Gweinidogion roi arian Llywodraeth Cymru a threthdalwyr Cymru mewn perygl, ac achosi’r posibilrwydd o achos diffyg cydymffurfio gan y Comisiwn Ewropeaidd gan eich bod chi’n torri rheolau cymorth gwladwriaethol?
Nid yw ef yn deall y ffordd y mae rheolau cymorth gwladwriaethol yn gweithio. Fel rheol, pan fydd rheolau cymorth gwladwriaethol yn cael eu torri, y derbynnydd sy'n ad-dalu, nid y Llywodraeth. O'n safbwynt ni, byddwn yn asesu'r sefyllfa i weld bod y risg yn dderbyniol. Dau beth y mae'n rhaid eu dweud am Gylchffordd Cymru: yn gyntaf, nid yw’r archwilydd cyffredinol wedi dweud nad yw hwn yn brosiect gwerth ei gefnogi, ac nid yw’r archwilydd cyffredinol wedi dweud ychwaith bod Cylchffordd Cymru yn sefydliad busnes heb unrhyw asedau, yn groes i’w Aelod Seneddol ei hun, David Davies, a'r hyn y mae ef wedi ei ddweud. Oes, yn ystod y gwaith o ddatblygu Cylchffordd Cymru, ceir asesiad o risg. Caiff penderfyniadau eu gwneud i dderbyn y risg honno os ystyrir bod angen, ac yna, wrth gwrs, rydym ni’n symud ymlaen i weld a all Cylchffordd Cymru droi’n realiti. Dyna beth mae Llywodraethau yn ei wneud: edrych ar risg a gwneud yn siŵr bod y risg honno’n dderbyniol, oherwydd, yn y pen draw, efallai y bydd y wobr yn un sy'n werth ei chael. Nid ydym ar y cam hwnnw eto; rydym ni’n dal i weithio i weld a all Cylchffordd Cymru lunio’r model cynaliadwy hwnnw.
Prif Weinidog, roedd yr archwilydd cyffredinol yn benodol iawn yn yr hyn yr oedd yn ei ystyried, sef y gyfran hon o arian y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwario hyd yma: £9.3 miliwn. Mae hynny'n swm eithaf sylweddol o arian o safbwynt unrhyw un. Nid oes neb yn dadlau, o bosibl, y gallai'r cynllun cyffredinol gael effaith adfywio enfawr. Ond rydych chi’n atebol am y ffordd y caiff arian ei ddyrannu. Rwyf wedi tynnu eich sylw at ddwy enghraifft yn adroddiad yr archwilydd cyffredinol: (1) prynu cwmni beiciau modur yn Swydd Buckingham a aeth yn fethdalwr am £300,000—pa geisiadau wnewch chi eu derbyn os ydych chi’n derbyn ceisiadau fel yna—a (2) eich bod chi wedi torri rheolau cymorth gwladwriaethol trwy gyflwyno gwarant y benthyciad, ac nid ydych chi wedi ymddiheuro am yr un o’r enghreifftiau hynny, ac nid ydych chi wedi eu diystyru i ddweud eu bod yn anghywir. Beth yn union allwn ni ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru, o gofio bod llu o enghreifftiau, o Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, pan anwybyddwyd cyngor swyddogion yn llwyr a phan aeth Gweinidogion yn eu blaenau i gael gwared ar dir o werth uchel, ac y diystyrwyd swyddogion yn y broses, a phan gafodd y cyhoedd golled trwy golli arian pan gyflawnwyd gwerthiannau cyffredinol yn CBCA, a’r un enghraifft yw hon, lle mae arian cyhoeddus wedi ei roi yn y fantol, fel y mae’r archwilydd cyffredinol wedi ei nodi? Sut gallwn ni fod ag unrhyw ffydd bod eich Llywodraeth yn gweithio'n gadarnhaol naill ai i gyflawni’r cytundeb hwn yn gadarnhaol, neu y byddwch chi’n rhoi mwy o arian cyhoeddus yn y fantol yn y pen draw?
Na fyddwn. Mae'r cytundeb yn un y byddem ni eisiau iddo fod yn gadarnhaol. Nid ydym yn bwriadu cyfrannu dim mwy o arian cyhoeddus; ein nod yw gweithio gyda buddsoddwr preifat ar gyfer y dyfodol. Mae'r holl bethau hyn yn cael eu trafod ar hyn o bryd. Ond rwy’n atgoffa arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig bod yn rhaid weithiau i chi wneud penderfyniad er lles pobl yn y dyfodol. Yr wythnos diwethaf, gwelsom y penderfyniad gan Qatar Airways i hedfan taith feunyddiol i mewn i Faes Awyr Caerdydd. Pe byddai ef wedi cael ei ffordd, byddai’r maes awyr hwnnw ar gau. Byddai wedi cau. Eisteddodd yn y fan yna yn cwestiynu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi prynu'r maes awyr. Rydym ni wedi gweld cynnydd mawr i nifer y teithwyr; rydym ni’n gweld Qatar Airways yn dod i mewn—roeddwn i yno dros y penwythnos. Ceir cyfleoedd enfawr—cyfleoedd enfawr i Gymru o ganlyniad i hynny. Gadewch iddo fe ymddiheuro am y ffaith ei fod yn barod i roi 1,000 o swyddi mewn perygl ym Mro Morgannwg—[Torri ar draws.]—ym Mro Morgannwg trwy ganiatáu i’r maes awyr gau. Yn ogystal â hynny, mae gennym ni ddiweithdra sy'n is nag yn Lloegr, is nag yn yr Alban ac yn is nag yng Ngogledd Iwerddon. Mae gennym ni sefyllfa lle mae’r pum cwmni sydd wedi tyfu fwyaf yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf yn gwmnïau yr ydym ni fel Llywodraeth Cymru wedi eu helpu, y ffaith ein bod ni wedi cael y ffigurau buddsoddiad tramor uniongyrchol gorau ers 30 mlynedd. Y gwir amdani yw ein bod ni’n creu swyddi pan fo’r Torïaid yn eu dinistrio.