Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 2 Mai 2017.
Yn union yr un wythnos i chi ddweud nad oedd gan Lafur unrhyw obaith o ennill etholiad cyffredinol, ymddiswyddodd un o'ch ASau mainc flaen blaenllaw yn San Steffan gan ddirmygu eich arweinydd, Jeremy Corbyn. Rydych chi wedi ei benodi nawr fel eich cydgysylltydd etholiad ar gyfer Cymru. Rydym ni wedi gweld pum gwahanol Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wrthblaid gan y Blaid Lafur ers etholiad diwethaf y DU, pedwar yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Nid yn unig yr ydych chi wedi neidio oddi ar y llong, rydych chi i gyd yn ffraeo dros y badau achub. Prif Weinidog, mae hyn yn aflerwch llwyr. A ydych chi wir yn disgwyl i bobl sydd wedi ymddiried yn eich plaid cyhyd i fod ag unrhyw ffydd yng ngallu eich plaid i amddiffyn Cymru?