Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 2 Mai 2017.
Wel, mae wedi bod yn gamsyniad ym Mhlaid Cymru erioed mai Plaid Cymru sy’n sefyll dros fuddiannau cenedlaethol Cymru. Pe byddai hynny’n wir, byddent yn gwneud yn well o lawer mewn etholiadau nag y maen nhw. Ac rwy’n gresynu at y syniad, rywsut, bod gan un blaid fonopoli ar wladgarwch neu o ran amddiffyn buddiannau Cymru. Nawr, gwn, yn anochel, yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, ein bod ni’n mynd i gael cwestiynau yn y Siambr hon sy'n effeithio ar yr etholiad cyffredinol; rydym ni i gyd yn gwybod hynny. Ond rwy’n credu bod pobl yn haeddu cael cwestiynau wedi’u gofyn iddynt am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd os ydych chi yng Nghymru yn y Cynulliad. Mae contractau dim oriau yn broblem. Nid ydym yn cefnogi contractau dim oriau. Mae hi’n ceisio awgrymu, rywsut, mewn egwyddor, ein bod ni’n meddwl eu bod nhw’n rhywbeth da. Nid ydym yn credu eu bod nhw’n rhywbeth da, ond am unrhyw nifer o resymau dros yr ychydig achlysuron diwethaf mae hi’n gwybod y bu problemau’n ymwneud â’r hyn y mae Plaid Cymru eisiau ei wneud a fyddai, mewn rhai achosion, yn peryglu hynt deddfwriaeth oherwydd y diffyg eglurder ynghylch cymhwysedd datganoledig. A realiti'r sefyllfa yw ein bod ni wedi arwain y ffordd pan ddaw i gael gwared ar gontractau dim oriau: rydym ni wedi gwneud hynny mewn Llywodraeth, rydym ni wedi gwneud hynny mewn sefydliadau a ariennir gan y Llywodraeth. Mae hi wedi siarad; rydym ni wedi gwneud.